Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Rhyddhad Ardrethi Busnes Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch - mae dal amser i wneud cais

Image of new British money

17 Ionawr 2025

Image of new British money
Mae gan fusnesau Powys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch amser yn dal i wneud cais am gynllun rhyddhad ardrethi a fydd yn gostwng eu bil ardrethi busnes, meddai'r cyngor sir.

Mae cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25, sy'n cael ei weinyddu gan Gyngor Sir Powys, wedi gweld 920 o fusnesau yn y sir yn cael y rhyddhad o 40% sydd wedi lleihau eu biliau ardrethi busnes o £2.8m.

Fodd bynnag, gyda £150,000 yn weddill yn y cynllun, amcangyfrifir fod tua 100 o fusnesau sydd eto i wneud cais.

Nawr mae'r cyngor yn annog busnesau cymwys sy'n weddill i wneud cais am y rhyddhad ardrethi ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru, sy'n helpu busnesau Powys i adfer o effeithiau'r pandemig a'r heriau economaidd parhaus gan gynnwys cyfraddau chwyddiant uchel, yn cynnig gostyngiad o 40% i fusnesau cymwys ar y bil ardrethi busnes ar gyfer eiddo.

Bydd y cynllun yn berthnasol i bob trethdalwr cymwys gyda chap rhyddhad ar gyfer pob eiddo busnes hyd at uchafswm o £110,000.

Rhaid i'r busnes fod yn y sectorau manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Mae'r cynllun rhyddhad ardrethi ar gael tan 31 Mawrth 2025. Rhaid i fusnesau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd wneud cais am y rhyddhad ardrethi hwn.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Rwyf wrth fy modd bod dros 900 o fusnesau ym Mhowys wedi gweld gostyngiad yn eu bil ardrethi busnes ar ôl gwneud cais am y rhyddhad ardrethi, gyda chyfanswm rhyddhad o £2.8m wedi ei ddyfarnu hyd yma.

"Mae'n parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i'r busnesau hynny yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda'r cyfnod economaidd heriol parhaus y maent yn ei wynebu wrth geisio adfer o effeithiau'r pandemig.

"Mae'r cynllun hwn yn cefnogi busnesau yn y sectorau hyn felly byddwn yn annog y busnesau sydd yn dal heb wedi gwneud cais i wneud hynny cyn gynted â phosib."

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun, gan gynnwys y ffurflen gais a sut i wneud cais, arlein. Ewch i Trethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024 / 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu