Cynnal cyfarfodydd cyngor ar-lein wedi cynyddu amrywiaeth y rhai sy'n gwneud penderfyniadau
20 Ionawr 2025
Mae'r astudiaeth yn tynnu sylw at fabwysiadu gweithio hybrid hyblyg ac o bell gan Gyngor Sir Powys - mewn ymateb i bandemig COVID-19 ond sydd wedi'i gynnal ers hynny - fel sbardun allweddol i wneud rôl ei aelodau etholedig yn fwy deniadol i bobl ag anableddau, yn ogystal ag i rieni a gofalwyr.
Mae'n ychwanegu bod y newidiadau hefyd wedi gwneud rôl cynghorydd sir yn fwy deniadol i bobl iau.
Dywed yr adroddiad: "Ar y cyfan, mae cyfarfodydd o bell wedi gwella'r diwylliant gweithio i gynghorwyr yng Nghyngor Sir Powys, gan ganiatáu iddynt gysylltu'n well â'u trigolion a mynychu eu dyletswyddau cyngor yn well."
Comisiynwyd yr astudiaeth gan Rwydwaith Hyrwyddwyr Anabledd Llywodraeth Leol, a'i hariannu gan Lywodraeth y DU, gyda'r nod o amlygu arfer da mewn cynghorau ledled Cymru a Lloegr sy'n cefnogi cynghorwyr a swyddogion ag anableddau.
"Rwy'n falch iawn bod Powys wedi cael ei chydnabod yn yr adroddiad hwn am y gwaith sydd wedi'i wneud i'w wneud yn lle mwy deniadol i fod yn gynghorydd sir," meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Agored a Thryloyw. "Mae maint y sir a'r pellteroedd hir y mae'n rhaid i bobl eu teithio i fynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb wedi bod yn her erioed, felly mae'n wych gweld bod ein dull yn cael effaith gadarnhaol a'i bod bellach yn cael ei hystyried yn esiampl i eraill i ddilyn."
- Rhwydwaith Hyrwyddwyr Anabledd Llywodraeth Leol: Astudiaethau achos arfer da: https://www.local.gov.uk/publications/local-government-disability-champions-network-good-practice-case-studies
- Cyngor Sir Powys: Gweithio Hyblyg a Hybrid o Bell: https://www.local.gov.uk/case-studies/powys-county-council-flexible-and-remote-hybrid-working