Arolwg cerrig beddi ym mynwentydd y cyngor
21 Ionawr 2025
Bydd contractwyr archwilio yn dynodi cofebion mewn un o dri chategori:
- Categori 1: anniogel ac angen sylw ar unwaith
- Categori 2: ansefydlog ond yn annhebygol o achosi risg iechyd a diogelwch uniongyrchol
- Categori 3: sefydlog a dim angen gweithredu
Bydd cofebau Categori 1 yn cael eu gosod i lawr neu ei gwneud yn ddiogel drwy ddulliau eraill ar adeg yr arolygiad. Bydd hysbysiad coch yn cael ei roi ar y gofeb/bedd yn cynghori nad yw'r gofeb yn ddiogel gan roi manylion am sut i gysylltu â'r cyngor.
Bydd cofebau Categori 2 yn cael rhybudd oren wedi'i roi mewn safle addas ar y gofeb yn nodi nad yw'r gofeb yn ddiogel a sut i gysylltu â'r cyngor. Os ar ôl chwe mis ar ôl dyddiad yr archwiliad nad yw'r gofeb wedi ei thrwsio caiff ei gosod i lawr neu ei gwneud yn ddiogel drwy ddulliau eraill fel y bo'n briodol.
Mae arwyddion gwybodaeth wedi eu gosod ar gatiau mynediad y mynwentydd lle bydd yr archwiliadau'n digwydd. Ni fydd y cyngor yn ceisio dynodi pwy yw perchnogion y beddi.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Bydd staff arbenigol yn cynnal archwiliadau fel rhan o raglen sirol a bydd unrhyw gofeb a nodir sydd mewn perygl o ddisgyn yn cael ei gosod i lawr neu ei gwneud yn ddiogel drwy ddulliau eraill.
"Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o bobl yn poeni am y cofebion i'w hanwyliaid ac rydym am i bobl fod yn ymwybodol bod yr archwiliadau hyn ar y gweill.
"Rhaid i ni fod yn siŵr bod ein mynwentydd yn llefydd diogel i ymweld â nhw a bod unrhyw gofebion a allai fod yn beryglus yn cael eu gwneud yn ddiogel."
Mae rhagor o wybodaeth am yr arolygiadau ar gael gan Wasanaeth Diogelu'r Amgylchedd y cyngor drwy e-bostio environmental.protection@powys.gov.uk neu ffonio 01938 551300.