Gwaith ar Hen Neuadd y Farchnad wedi'i gwblhau
23 Ionawr 2025
Mae Cyngor Sir Powys wedi goruchwylio'r gwaith atgyweirio ar adeilad Hen Neuadd y Farchnad yn Llanidloes, adeilad rhestredig Gradd I.
Roedd gwaith atgyweirio strwythurol yn cael ei wneud ar yr adeilad hanesyddol a oedd yn cynnwys defnyddio technoleg newydd i gryfhau ei sefydlogrwydd.
Rheolwyd y prosiect, a gynhaliwyd mewn tri cham, gan Doug Hughes Architects gyda LJV Construction Ltd yn gwneud y gwaith atgyweirio a chryfhau.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Roedd yn bwysig bod y gwaith hwn yn cael ei wneud i sicrhau bod yr adeilad eiconig hwn yn cael ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Roedd hwn yn brosiect anodd o ystyried ei leoliad a bod angen gwaith atgyweirio ac ailaddurno ar bob gweddlun o'r adeilad. Hoffwn ddiolch i'n partneriaid Doug Hughes Architects a LJV Construction Ltd am eu cysylltiad â'r prosiect hwn.
"Rhaid diolch yn arbennig hefyd i drigolion a masnachwyr lleol am eu hamynedd wrth i'r gwaith gael ei wneud i'r adeilad enwog hwn."