Diweddariad Cyfreithiol Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS)
Darparwyd gan DCC Interactive
Ar-lein drwy TEAMS
Cynulleidfa Darged: Holl wasanaethau pobl ifanc a staff gofal cymdeithasol -Rheolwyr a Goruchwylwyr yn y gwasanaethau Darparwyr.
Nod:
Sicrhau bod gan y rhai sy'n gweithio oddi fewn i wasanaethau gofal cymdeithasol pobl ifanc ac oedolion, gan gynnwys rheolwyr gwasanaethau a darpariaeth gofal, ddealltwriaeth gyfreithiol o Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Rhyddid, 2009. Galluogi staff i arwain a herio eraill ar sut i gymhwyso egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol ac atgyfnerthu cyfrifoldebau gyda DoLS 2009. Gan gynnwys sut mae DoLS yn berthnasol i 16 + oed
Canlyniadau Allweddol:
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyfraith a pholisi achosion perthnasol a chyfredol mewn perthynas â Deddf Galluedd Meddyliol a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid gan gynnwys Amddifadu o Ryddid ar gyfer pobl ifanc. Cydnabod pwysigrwydd y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid ac archwilio unrhyw newidiadau.
Nodi egwyddorion sylfaenol cyfraith gyhoeddus a phwysigrwydd gwybod beth yw cyfyngiadau eich awdurdod fel awdurdod cyhoeddus o dan y ddeddfwriaeth. Sicrhau bod staff yn gwneud pethau'n gyfreithlon o safbwynt moesegol i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol a gwneud penderfyniadau y gellir eu hamddiffyn ar ran yr awdurdod cyhoeddus. Deall yr amddiffyniad cyfreithiol a ddarperir gan adran 5 y Ddeddf ar gyfer penderfyniadau a chan adran 6 ar gyfer penderfyniadau sy'n cynnwys cyfyngu ac atal er mwyn sicrhau bod staff yn dilyn y canllawiau hyn, yn eu gwaith bob dydd ac yn sicrhau eu bod yn cael eu trosi'n gynllunio gofal.
Hyrwyddo a deall cyfrifoldebau'r awdurdod Rheoli o fewn Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a phryd i wneud atgyfeiriad ar gyfer Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid. Ystyried dynameg gymhleth anwadalwch capasiti a'r effeithiau ar benderfyniadau mewn lleoliadau gofal, cymorth IMCA a phwysigrwydd prosesau apelio adran 21A sy'n cynnwys y Llys Gwarchod. Sut ddylem ni bellach ddiffinio ac awdurdodi Amddifadu o Ryddid ar gyfer pobl ifanc 16/17 oed? Sut mae Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn effeithio ar gleifion 'anffurfiol' o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a rôl Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Oedolion a Thribiwnlysoedd?
Dyddiad: 16 Gorffennaf 2025
Amseroedd: 9.00am - 4.30pm
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses