Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Os oes gennych Fy Nghyfrif Powys, cymerwch ran yn ein harolwg os gwelwch yn dda

Diweddariad Cyfreithiol Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS)

Darparwyd gan DCC Interactive

Ar-lein drwy TEAMS

Cynulleidfa Darged: Holl wasanaethau pobl ifanc a staff gofal cymdeithasol -Rheolwyr a Goruchwylwyr yn y gwasanaethau Darparwyr.

Nod:

Sicrhau bod gan y rhai sy'n gweithio oddi fewn i wasanaethau gofal cymdeithasol pobl ifanc ac oedolion, gan gynnwys rheolwyr gwasanaethau a darpariaeth gofal, ddealltwriaeth gyfreithiol o Drefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Rhyddid, 2009. Galluogi staff i arwain a herio eraill ar sut i gymhwyso egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol ac atgyfnerthu cyfrifoldebau gyda DoLS 2009.  Gan gynnwys sut mae DoLS yn berthnasol i 16 + oed

Canlyniadau Allweddol:

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyfraith a pholisi achosion perthnasol a chyfredol mewn perthynas â Deddf Galluedd Meddyliol a Threfniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid gan gynnwys Amddifadu o Ryddid ar gyfer pobl ifanc. Cydnabod pwysigrwydd y Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid ac archwilio unrhyw newidiadau.                                                                                                                                                                               

Nodi egwyddorion sylfaenol cyfraith gyhoeddus a phwysigrwydd gwybod beth yw cyfyngiadau eich awdurdod fel awdurdod cyhoeddus o dan y ddeddfwriaeth. Sicrhau bod staff yn gwneud pethau'n gyfreithlon o safbwynt moesegol i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol a gwneud penderfyniadau y gellir eu hamddiffyn ar ran yr awdurdod cyhoeddus. Deall yr amddiffyniad cyfreithiol a ddarperir gan adran 5 y Ddeddf ar gyfer penderfyniadau a chan adran 6 ar gyfer penderfyniadau sy'n cynnwys cyfyngu ac atal er mwyn sicrhau bod staff yn dilyn y canllawiau hyn, yn eu gwaith bob dydd ac yn sicrhau eu bod yn cael eu trosi'n gynllunio gofal.                                                                                                                                                    

Hyrwyddo a deall cyfrifoldebau'r awdurdod Rheoli o fewn Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid a phryd i wneud atgyfeiriad ar gyfer Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid. Ystyried dynameg gymhleth anwadalwch capasiti a'r effeithiau ar benderfyniadau mewn lleoliadau gofal, cymorth IMCA a phwysigrwydd prosesau apelio adran 21A sy'n cynnwys y Llys Gwarchod. Sut ddylem ni bellach ddiffinio ac awdurdodi Amddifadu o Ryddid ar gyfer pobl ifanc 16/17 oed? Sut mae Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn effeithio ar gleifion 'anffurfiol' o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a rôl Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Oedolion a Thribiwnlysoedd?

Dyddiad: 16 Gorffennaf 2025

Amseroedd: 9.00am - 4.30pm

 

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu