Cais cynllunio wedi'i gymeradwyo i adeiladu tai cyngor newydd
![Image of the proposed new council housing development in Llanrhaeadr-ym-Mochnant](/image/22997/Image-of-the-proposed-new-council-housing-development-in-Llanrhaeadr-ym-Mochnant/standard.png?m=1738324069580)
31 Ionawr 2025
![Image of the proposed new council housing development in Llanrhaeadr-ym-Mochnant](/image/22997/Image-of-the-proposed-new-council-housing-development-in-Llanrhaeadr-ym-Mochnant/gi-responsive__100.png?m=1738324069580)
Cyflwynodd Cyngor Sir Powys gynlluniau a fyddai'n gweld y cartrefi ecogyfeillgar ac wedi'u hinswleiddio'n dda ar dir i'r gorllewin o Faes yr Esgob yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant.
Cafodd y cais cynllunio ar gyfer y datblygiad ei gymeradwyo gan Bwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy'r Cyngor ddydd Iau, 30 Ionawr.
Bydd y datblygiad yn cynnwys pedwar tŷ un ystafell wely, dau fyngalo un ystafell wely, chwe tŷ dwy ystafell wely, dau dŷ tair ystafell wely a phedwar fflat un ystafell wely.
Y cyngor fydd yn berchen ar y tai newydd ac yn eu rheoli a byddant yn cael eu dyrannu i denantiaid drwy 'Cartrefi ym Mhowys' - y siop un stop ar gyfer holl dai cymdeithasol y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwyf wrth fy modd bod ein cais cynllunio i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel, sy'n defnyddio ynni'n effeithlon i'w rhentu yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant wedi'i gymeradwyo.
"Mae darparu tai cyngor newydd yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn ymrwymiad ariannol mawr gan y cyngor a fydd yn helpu i daclo tlodi, cefnogi'r economi leol a chreu cyfleoedd ar gyfer swyddi a hyfforddiant yn y gymuned.
"Mynd i'r afael â'r argyfwng tai ym Mhowys yw fy mhrif flaenoriaeth. Bydd y cynnig cyffrous hwn yn ein helpu i adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i'n cymunedau."
I gael gwybod mwy am ymrwymiad y cyngor i ddatblygu 350 o gartrefi newydd i'w rhentu'n gymdeithasol, ewch i Datblygu Tai