Gwirfoddolwyr yn gwaredu bron i 3,000 o fagiau o sbwriel yn ystod prosiect amgylcheddol

3 Chwefror 2025

Nod y cydweithio rhwng Cyngor Sir Powys a Cadwch Gymru'n Daclus oedd annog gwirfoddolwyr i ofalu am eu cymunedau eu hunain drwy ddarparu offer, hyfforddiant a chefnogaeth iddynt.
Arweiniodd hyn hefyd at helpu grwpiau i wneud gwelliannau amgylcheddol sy'n annog bioamrywiaeth ac sy'n rhedeg prosiectau i hyrwyddo ailgylchu, ailddefnyddio offer a deunyddiau, a diddordeb mewn natur.
Rhwng Gorffennaf 2023 a diwedd 2024, gweithiodd tîm Caru Powys gyda 103 o sefydliadau gwahanol a chefnogi 1,194 o ddigwyddiadau a gweithgareddau gwahanol, a oedd yn cynnwys casglu sbwriel, garddio a phrosiectau celf.
Darparodd hefyd lawer o gyfleoedd gwahanol i wirfoddoli (181) gyda 2,692 o bobl yn cyfranogi i ofalu am eu cymdogaethau eu hunain.
Mae Caru Powys yn bosibl diolch i grant o bron i £116,000 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
"Mae'n wych bod Caru Powys wedi cael effaith mor fawr ar amgylcheddau Powys, gan eu gwella ar gyfer pobl a bywyd gwyllt," meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Bowys Wyrddach. "Rwy'n llongyfarch pawb a wirfoddolodd, a'n timau glanhau strydoedd a'u cefnogodd, am bopeth maen nhw wedi'i wneud.
"Gall gwirfoddoli gael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau ac ar y rhai sy'n gwirfoddoli, o ran eu llesiant eu hunain. Mae hefyd yn ein helpu i gynnal strydoedd glân a mannau gwyrdd, sy'n chwarae rhan ym myd bywyd gwyllt, tra bod cyllidebau'r sector cyhoeddus yn cael eu gwasgu."
Adeiladodd y prosiect ar gydweithrediad blaenorol llwyddiannus rhwng y cyngor a Chadwch Gymru'n Daclus fel rhan o gynllun Caru Cymru.
Dywedodd Jodie Griffith, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru'n Daclus ar gyfer Powys: "Galluogodd prosiect Caru Powys ni i gefnogi ac ymgysylltu â nifer enfawr o bobl ar draws y sir gyfan. Bu'n wych gweithio gyda gwirfoddolwyr mor frwdfrydig a gweithgar, sy'n wirioneddol ofalu ar ôl eu cymunedau.
"Rydym wedi adeiladu partneriaeth gref gyda Chyngor Sir Powys i gefnogi gweithgareddau casglu sbwriel a gweithgareddau amgylcheddol y mae mawr eu hangen, ac rydym yn bwriadu parhau â'r gwaith hwn yn y dyfodol."
Os oes unrhyw un am gymryd rhan mewn casglu sbwriel gwirfoddol, mae hybiau mewn naw llyfrgell ym Mhowys, a sawl lleoliad cymunedol arall, lle gellir benthyg offer: Helpwch ni i gadw Powys yn lân
Mae'r pecynnau casglu sbwriel yn cynnwys teclynnau gafael, bagiau, cylchoedd bagiau a festiau hi-vis.
Dyfarnwyd yr arian ar gyfer Caru Powys i Wasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu y cyngor a Chadwch Gymru'n Daclus gan Fwrdd Partneriaeth Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys, sy'n cael ei gefnogi gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd y cyngor.
LLUN: Glanhau cymunedol ar ystâd dai Treowen yn y Drenewydd a drefnwyd fel rhan o Caru Powys ac a oedd yn cynnwys plant o Ysgol Gynradd Treowen.