Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Archebu ymweliad

Image of mobile phone with booking slot on the front

O 1 Ebrill, mae'n rhaid eich bod wedi trefnu slot amser i ymweld â'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

Archebu ymweliad Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi - Archebu Ymweliad

Diwygio archeb Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi - Diwygio Archeb

Cafodd y system cadw lle ar gyfer y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ei chyflwyno er mwyn:

  • lleihau tagfeydd ac amseroedd ciwio
  • gwneud ymweliadau'n haws ac yn gyflymach
  • rhoi mwy o amser i staff i helpu ymwelwyr a allai fod angen cyngor a/neu gymorth ar y safle

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar-lein i archebu amser yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi o'ch dewis. Bydd angen i chi roi eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif cofrestru'r cerbyd y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer eich ymweliad.

Gellir archebu amser dros y ffôn hefyd drwy ffonio: 01597 827465(Mae'r llinell ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am - 5pm (4:30pm ddydd Gwener)).

Gallwch archebu amser hyd at naw diwrnod ymlaen llaw. Fodd bynnag, os oes lle ar gael, efallai y byddwch yn gallu archebu amser ar gyfer heddiw.

 

Pethau i'w cofio cyn eich ymweliad:

  • Lle bynnag y bo'n bosibl, defnyddiwch y casgliadau ailgylchu ymyl y ffordd wythnosol ar gyfer:
    • Plastig, caniau a chartonau
    • Papur a cherdyn
    • Poteli a jariau gwydr
    • Bwyd
  • Ystyriwch a allai eich eitemau dieisiau gael ail fywyd? Dysgwch fwy am ddewis ailddefnyddio.
  • O 1 Ebrill 2025 ymlaen, bydd angen i chi dalu i  gymryd gwastraff DIY  i'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen gwybodaeth am daliadau gwastraff DIY​​​​. Os ydych yn cynllunio clirio tŷ neu brosiect adeiladu/DIY mawr, byddai llogi sgip gan gwmni gwastraff ag enw da yn fwy priodol
  • Os ydych yn gyrru cerbyd o fath masnachol neu'n bwriadu defnyddio trelar ar gyfer eich ymweliad? Efallai y bydd angen Trwydded Cerbyd Masnachol neu Drelar (CVT). Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen gwybodaeth am Drwyddedau Cerbydau neu Drelar Masnachol.
  • Cyn cyrraedd y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, rhaid gwahanu'r holl ddeunyddiau yn barod i'w hailgylchu'n gywir yn y cynwysyddion cywir.
  • Gwrthodir unrhyw fagiau neu focsys o ddeunyddiau cymysg, heb eu didoli.
  • Rhaid i eitemau sy'n dod i'r ganolfan gael eu hailgylchu'n gywir. Dim ond fel dewis olaf y dylech daflu unrhyw beth i ffwrdd mewn sgip sbwriel gweddilliol/cyffredinol a rhaid defnyddio sgip ar gyfer eitemau na ellir eu hailgylchu yn unig.
  • Os nad ydych yn siŵr ym mha gynwysyddion i ailgylchu eich eitemau yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi,  siaradwch ag aelod o staff a fydd yn hapus i helpu.
  • Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas wrth ymweld â'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.
  • Rhaid i blant ac anifeiliaid anwes aros mewn cerbydau bob amser.
  • Ni allwn dderbyn unrhyw wastraff nac ailgylchu o ffynonellau nad ydynt yn gartrefi (busnes neu sefydliadau) yn unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. I gael manylion am sut i waredu gwastraff masnachol yn gyfreithlon, cysylltwch ag Ailgylchu Masnachol Powys.
  • Cofiwch ddefnyddio cynwysyddion sy'n hawdd eu cario ar gyfer eich gwastraff. Nid yw bagiau mawr/swmpus yn addas gan eu bod yn rhy fawr a thrwm. Ni fydd staff yn gallu eich cynorthwyo os nad yw eich gwastraff wedi'i rhoi mewn cynhwysydd sy'n ddiogel ac yn briodol.
  • Ni oddefir ymddygiad ymosodol yn erbyn staff y safle.

Rydym wedi creu tudalen 'Cwestiynau Cyffredin' cyfleus i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon sydd gennych. Gallwch ddod o hyd i'r atebion i'r cwestiynau hyn ar 'Cwestiynau Cyffredin y System Archebu'.

Angen rhagor o wybodaeth? Cysylltwch â ni: waste.contracts@powys.gov.uk 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu