Trwydded Cerbydau Masnachol ac Ôl-gerbydau (CVT)
Mae trwyddedau Cerbydau Masnachol neu Gerbydau (CVT) yn caniatáu i breswylwyr ddefnyddio eu cerbyd neu drelar masnachol i fynd â'u gwastraff cartref ac ailgylchu i'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.
Dim ond preswylwyr sy'n dod â gwastraff cartref ac ailgylchu i'r Canolfannau Ailgylchu Cartrefi sy'n gallu defnyddio trwyddedau CVT. Ni allwn dderbyn unrhyw wastraff nac ailgylchu o ffynonellau nad ydynt yn gartrefi (busnes neu sefydliadau) yn unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. I gael manylion am sut i waredu gwastraff masnachol yn gyfreithlon, cysylltwch ag Ailgylchu Masnachol Powys.
Cofiwch y bydd angen i chi archebu slot amser ar gyfer eich ymweliad.
Darllenwch yr amodau a thelerau llawn cyn ymgeisio am drwydded.