Y Cabinet i ystyried achos amlinellol strategol dros adeiladu ysgol gynradd newydd

6 Chwefror 2025

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Golwg Pen y Fan ac mae wedi paratoi Achos Amlinellol Strategol (AAS) a gaiff ei ystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth, 18 Chwefror.
Agorodd Ysgol Golwg Pen y Fan fis Medi diwethaf yn dilyn uno Ysgol Fabanod Mount Street, Ysgol Iau Mount Street ac Ysgol Gynradd Gymunedol Cradoc ac mae'n gweithredu ar draws tri safle ar hyn o bryd.
Byddai'r prosiect yn arwain at adeiladu ysgol gynradd newydd gyda lle i 360 o ddisgyblion ar hen safle Ysgol Uwchradd Aberhonddu. Byddai'r cyfleuster newydd yn cynnwys darpariaeth blynyddoedd cynnar a pharhad yn ogystal â chyfleusterau cymunedol/amlasiantaethol pwrpasol.
Bydd y prosiect yn helpu'r cyngor i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.
Bydd y Cabinet yn cael gwybod mai £19.3m fyddai'r cyllid sy'n ofynnol ar gyfer yr ysgol newydd, gyda 65% o'r cyllid yn dod o Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Byddai'r 35% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y cyngor.
Yr AAS yw'r cyntaf mewn cyfres o dri achos busnes y bydd angen eu paratoi er mwyn sicrhau cyllid ar gyfer yr adeilad newydd. Os caiff yr achos ei gymeradwyo, caiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am eu cymeradwyaeth hwythau.
Meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Bydd yr adeilad newydd ar gyfer Ysgol Golwg Pen y Fan yn gam pwysig ar daith yr ysgol, gan ei galluogi i weithredu o un safle, mewn cyfleusterau cyfredol y mae'r plant a'r staff yn eu haeddu, gan alluogi cyflwyno'r cwricwlwm mewn ffordd barhaus a chydlynol.
"Os caiff yr Achos Amlinellol Strategol ei gymeradwyo gan y Cabinet a Llywodraeth Cymru, byddai hyn yn fuddsoddiad enfawr arall yn ein isadeiledd ysgolion."
Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau'r cyngor ddydd Mercher, 12 Chwefror.
I ddarllen Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion Rhaglen Trawsnewid Addysg - Cam 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg