Cabinet i ystyried adroddiad ymgynghori ysgol Bro Cynllaith

6 Chwefror 2025

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu cau Ysgol Bro Cynllaith a chynhaliwyd ymgynghoriad chwe wythnos ar y cynnig rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2024.
Fel rhan o'r cynnig, byddai disgyblion sy'n byw ym Mhowys yn trosglwyddo i'r ysgol agosaf ym Mhowys. I'r rhan fwyaf o ddisgyblion, Ysgol Gynradd Llanrhaeadr-ym-Mochnant fyddai hon.
Bydd canfyddiadau'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth 18 Chwefror.
Gofynnir i'r Cabinet hefyd barhau â'r broses i gau Ysgol Bro Cynllaith, sydd â 25 o ddisgyblion ar hyn o bryd.
Os rhoddir sêl bendith, bydd y cyngor yn cyhoeddi hysbysiad statudol yn cynnig y newid yn ffurfiol. Yna byddai'n ofynnol iddo ystyried adroddiad arall i gwblhau'r broses.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Hoffai'r cyngor ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad am y cynnig hwn.
"Ar ôl ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus, yr argymhelliad y bydd y Cabinet yn ei ystyried yw parhau â'r cynnig drwy gyhoeddi'r hysbysiad statudol yn cynnig cau Ysgol Bro Cynllaith yn ffurfiol.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r dechrau gorau posibl i'n dysgwyr a chredwn y bydd ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys yn cyflawni hyn.
"Fel rhan o'r strategaeth, mae angen i ni fynd i'r afael â'r gyfran uchel o ysgolion bach yn y sir, niferoedd disgyblion yn gostwng a'r nifer uchel o leoedd dros ben.
"Mae'r niferoedd disgyblion hanesyddol a rhag-amcanol ar gyfer Ysgol Bro Cynllaith yn awgrymu na ddisgwylir i'r niferoedd gynyddu'n sylweddol yn y dyfodol tra mai hi yw'r drydedd ysgol uchaf ym Mhowys yn ôl cyfran cyllideb fesul disgybl.
"Mae niferoedd bach y disgyblion yn yr ysgol yn golygu bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau cyfnod allweddol cyfan gyda disgyblion sylfaen mewn un dosbarth a disgyblion hŷn mewn un arall. Gan fod niferoedd disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn yn fach, mae'n anoddach sicrhau bod pob disgybl yn cael ei herio'n briodol.
"Nid ar chwarae bach y daethom at y cynnig hwn ond credwn fod angen mynd i'r afael â'r niferoedd isel yn yr ysgol a lleihau capasiti dros ben cyffredinol y cyngor mewn ysgolion cynradd.
"Bydd hefyd yn sicrhau bod disgyblion yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau gyda chyfoedion o oedrannau tebyg ac yn mynychu ysgol fwy a allai ddarparu ystod ehangach o weithgareddau addysgol ac allgyrsiol."
Bydd canfyddiadau ac adroddiad yr ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau'r cyngor ddydd Mercher, 12 Chwefror.
I ddarllen Strategaeth y cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion Rhaglen Trawsnewid Addysg - Cam 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg