Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025

10 Chwefror 2025

I nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2025 (10-16 Chwefror), mae'r cyngor yn dathlu cyflogi dros 25 o brentisiaid mewn amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys cyllid, tai, TGCh, peirianneg a phriffyrdd, gyda llawer ohonynt yn rhagori mewn gwobrau.
Llwyddodd Daisy Evans sy'n parentis yn Nhîm Dylunio Eiddo'r cyngor, i gyrraedd yr ail safle yng ngwobrau Prentis y Flwyddyn Llywodraeth Leol y llynedd.
Fel rhan o'r wobr, profwyd Daisy ar gyfres o weithgareddau, a gynlluniwyd i adlewyrchu penderfyniadau bywyd go iawn gan gynghorau.
I hyrwyddo ei hastudiaethau, bydd Daisy bellach yn mynd ymlaen i gwblhau cwrs drwy'r Brifysgol Agored, wrth iddi hi barhau â'i gwaith gyda'r cyngor.
Cafodd Paige Dixon hefyd, prentis mewn darparwr Dechrau'n Deg ym Mhowys, llwyddiant yng Ngwobrau Partneriaeth Dysgu yn y Gweithle Academi Sgiliau Cymru 2024.
Roedd llawer o brentisiaid eraill yn llwyddiannus yng ngwobrau staff y cyngor:
Jade Price - Prentis Gweinyddydd Hyfforddiant, Gwasanaethau Plant a ddaeth yn ail yn y Wobr Gweithiwr Newydd.
Sam Evans - Prentis Gweithiwr ar y Ddesg Gwasanaeth TGCh a enillodd y Wobr Gweithiwr Ifanc.
Leah Roginson - Gweinyddwr HTR, cyn-brentis a ddaeth yn ail yn y Wobr Gweithiwr Ifanc.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, aelod Cabinet Cyngor Sir Powys sydd â chyfrifoldeb am Adnoddau Dynol a'r gweithlu: "Hoffwn longyfarch ein holl brentisiaid am eu gwaith caled a'u hymrwymiad.
"Rydym yn falch o fuddsoddi yn ein staff drwy gynnig cyfle i bobl fel Daisy ddysgu ac ennill cymwysterau wrth ennill cyflog."
"Rydym hefyd wedi ymrwymo i dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'n prentisiaid hefyd - cyfradd fesul awr yn seiliedig ar gostau byw sydd wedi'u gosod yn annibynnol."
Ychwanegodd: "Os cawsoch eich hysbrydoli gan stori Daisy, a bod gennych ddiddordeb mewn cyfle newydd, hoffwn eich annog i gadw golwg am brentisiaethau yn y dyfodol yma: www.powys.gov.uk/swyddi Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Cronfa Dalent lle cysylltir â chi'n uniongyrchol os bydd prentisiaeth addas yn codi."