Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwahardd cynnull adar i leihau lledaeniad ffliw adar

Image of a chicken

12 Chwefror 2025

Image of a chicken
Mae perchnogion dofednod ym Mhowys wedi cael rhybudd bod cynnull dofednod wedi'i wahardd ledled Cymru.

Mae'r gwaharddiad, a ddaeth i rym ar 10 Chwefror, wedi'i gyflwyno i leihau lledaeniad Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI). Yn gynwysedig yn y gwaharddiad mae ffeiriau adar, marchnadoedd, sioeau, gwerthiannau ac arddangosfeydd, sy'n effeithio ar hwyaid, gwyddau, tyrcïod, ieir ac adar hela.

Mae Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys bellach yn rhybuddio perchnogion dofednod i gydymffurfio â'r gwaharddiad yn ogystal â Pharth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru fis diwethaf (Ionawr).

Mae'r parth gwarchod yn ei gwneud yn ofynnol i bob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill, waeth beth fo maint yr haid neu sut y cedwir yr adar, gymryd camau priodol ac ymarferol gan gynnwys:

  • Sicrhau nad yw'r ardaloedd lle y cedwir adar yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod rhwydi dros byllau dŵr a'r ardaloedd cyfagos a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd adar gwyllt;
  • Rhoi bwyd a dŵr i adar mewn ardaloedd caeedig i atal adar gwyllt;
  • Lleihau symudiadau pobl i mewn ac allan o uned gaeedig adar;
  • Glanhau a diheintio esgidiau, defnyddio dip traed cyn mynd i mewn i uned gaeedig i  ddofednod, a chadw ardaloedd lle mae adar yn byw, yn lân ac yn daclus;
  • Lleihau unrhyw halogiad presennol trwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit a ffensio ardaloedd gwlyb neu gorsiog;
  • Cadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân i ddofednod eraill;
  • Ni ddylid symud adar hela gwyllt sydd wedi'u "dal" yn ystod y tymor agored am o leiaf 21 diwrnod, yn amodol ar yr amodau yn y datganiad.
  • Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw yn unol â'r amodau yn y datganiad. Cwblhau'r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch gorfodol o fewn 7 diwrnod. Er mwyn helpu i gadw adar yn rhydd o glefydau, rydym wedi creu dwy restr wirio hunanasesu bioddiogelwch ar gyfer ceidwaid dofednod masnachol a bach.

Bydd hefyd yn rhaid i geidwaid sydd â mwy na 500 o adar gymryd mesurau bioddiogelwch ychwanegol, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad ydynt yn hanfodol, newid dillad ac esgidiau cyn mynd i mewn i unedau caeedig i adar, a glanhau a diheintio cerbydau.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Gan fod y perygl i ddofednod o ffliw adar yn parhau i fod yn uchel, mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio'n agos gyda cheidwaid adar i leihau lledaeniad ffliw adar.

"Mae'r holl ddofednod mewn perygl o ledaeniad clefydau heintus, ac rwy'n annog ceidwaid adar i fod yn wyliadwrus am arwyddion o haint yn eu hadar."

Rhaid i geidwaid hefyd fod yn wyliadwrus am arwyddion o glefyd. Mae ffliw adar yn glefyd hysbysadwy, a dylid rhoi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith ar 0300 303 8268.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ffliw adar ar wefan Llywodraeth Cymru yn https://www.llyw.cymru/ffliw-adar-0

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu