Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llywodraeth Cymru

Image of County Hall in Llandrindod
21 Tachwedd 2017 

Image of County Hall in Llandrindod

Mae'r cyngor wedi croesawu'r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn ystyried pecyn cymorth i Bowys i'w helpu i ymateb i argymhellion diweddar yr Arolygiaeth AGGCC.

Ysgrifennodd Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd Rosemarie Harris at Weinidogion Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf yn gofyn iddynt ymarfer eu pwerau i ddarparu cymorth statudol i'r cyngor, gan ddefnyddio eu pwerau o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

Ddoe, bu'r Arweinydd a'r Prif Weithredwr Dros Dro, David Powell yn cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i drafod y cais.

"Roedd yn gyfarfod adeiladol ac mae gwaith bellach ar y gweill gyda CLlLC a phartneriaid i ddatblygu pecyn cymorth priodol i gefnogi ein gwaith gwella mewn ymateb i archwiliad yr AGGCC," meddai.

"Mae gennym dîm gwella gydag arbenigwyr o feysydd allweddol eisoes ar waith i gefnogi'r gwasanaeth ar ei daith i wella. Rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu cefnogaeth i helpu cyflawni'r gwelliant hwn.

"Mae'r cyngor wedi cyflwyno ei gynllun gwella sy'n cael ei adolygu gan AGGCC a swyddogion Llywodraeth Cymru.  Rydym yn benderfynol o gyflwyno gwelliannau o fewn y gwasanaeth a byddwn yn darparu gwybodaeth reolaidd ar ein cynnydd."