Hwb i briffyrdd yn argymhellion y gyllideb

14 Chwefror 2025

Mae cynlluniau'r gyllideb wedi'u hariannu'n llawn sy'n cael eu hargymell gan y Cabinet yn cynnwys cynnydd arfaethedig o 8.9 y cant yn nhreth y cyngor, ynghyd â chyllid ar gyfer y gwasanaeth tân - arbedion cyllidebol o £12.3 miliwn, fel rhan o wariant blynyddol cyllidebol o dros £365 miliwn.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol, y Cynghorydd Sir David Thomas: "Er gwaethaf y cynnydd yn ein cyllid allanol, mae'r galw cynyddol yn enwedig mewn gofal cymdeithasol, a phwysau chwyddiant yn golygu ein bod yn wynebu bwlch sylweddol yn y gyllideb. Bydd y gyllideb yr ydym yn ei hargymell yn cyflwyno cyllideb gytbwys.
"Ynghyd ag awdurdodau eraill yng Nghymru, rydym wedi lobïo Llywodraeth Cymru am gyllido gwaelodol sy'n gwarantu lefel benodol o gyllid, a'r gobaith yw y bydd hyn yn cael ei gytuno. Am bob cynnydd o 0.5 y cant mewn cyllid bydd Powys yn derbyn £1.1 miliwn ychwanegol. Byddem yn croesawu unrhyw gyllid ychwanegol i gefnogi ein gwasanaethau.
"Fel cabinet rydym yn gwrando ar bobl Powys ac fel rhan o'n cynlluniau cyllidebol, rydym yn argymell y dylid gwario unrhyw gyllid ychwanegol a ddyrennir drwy'r cyllido gwaelodol ar ein ffyrdd."
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach, y Cynghorydd Jackie Charlton: "Rwy'n croesawu ymrwymiad y Cabinet i wario arian ychwanegol drwy fecanwaith y cyllido gwaelodol ar ffyrdd y sir"
Bydd cyfarfod llawn o'r cyngor sir yn ystyried y gyllideb ddydd Iau 20 Chwefror.