Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad Ymwybyddiaeth Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant

Child Sexual Exploitation Awareness Event

17 Chwefror 2025

Child Sexual Exploitation Awareness Event
Bydd sesiwn am ddim i godi ymwybyddiaeth o Gamfanteisio'n Rhywiol ar Blant yn cael ei chynnal gan Gyngor Sir Powys, ar y cyd â Sefydliad Lucy Faithfull.

Nod y sesiwn yw rhoi cyfle i rieni ac aelodau'r gymuned ddysgu mwy am gam-fanteisio rhywiol ar blant, dangos sut y gall ddigwydd, beth yw'r risgiau, a pha gymorth sydd ar gael. 

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein ar ddau achlysur, y ddau gyda'r un cynnwys:

  • Dydd Mercher 5 Mawrth, 5:30pm - 6:30pm
  • Dydd Mercher 19 Mawrth, 5:30pm - 6:30pm

Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol: "Mae Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant yn fath o gam-drin plant. Gall gael effeithiau dinistriol a hirbarhaol ar blant a'u teuluoedd. Nod y sesiwn hon yw codi ymwybyddiaeth o'r math hwn o gamdriniaeth, o fewn ein cymunedau.

"Rydym am gefnogi ein trigolion i geisio cymorth a gweithredu."

Os ydych yn dymuno mynychu, bydd angen i chi gofrestru cyn y sesiwn i dderbyn y ddolen. I gofrestru, anfonwch neges e-bost at practice.development@powys.gov.uk.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu