Digwyddiad Ymwybyddiaeth Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant

17 Chwefror 2025

Nod y sesiwn yw rhoi cyfle i rieni ac aelodau'r gymuned ddysgu mwy am gam-fanteisio rhywiol ar blant, dangos sut y gall ddigwydd, beth yw'r risgiau, a pha gymorth sydd ar gael.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein ar ddau achlysur, y ddau gyda'r un cynnwys:
- Dydd Mercher 5 Mawrth, 5:30pm - 6:30pm
- Dydd Mercher 19 Mawrth, 5:30pm - 6:30pm
Dywedodd y Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol: "Mae Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant yn fath o gam-drin plant. Gall gael effeithiau dinistriol a hirbarhaol ar blant a'u teuluoedd. Nod y sesiwn hon yw codi ymwybyddiaeth o'r math hwn o gamdriniaeth, o fewn ein cymunedau.
"Rydym am gefnogi ein trigolion i geisio cymorth a gweithredu."
Os ydych yn dymuno mynychu, bydd angen i chi gofrestru cyn y sesiwn i dderbyn y ddolen. I gofrestru, anfonwch neges e-bost at practice.development@powys.gov.uk.