Toglo gwelededd dewislen symudol

Dweud eich dweud ar welliannau i ganol tref Aberhonddu

Image showing a plan for the improvements to Brecon town centre

17 Chwefror 2025

Image showing a plan for the improvements to Brecon town centre
Mae cam nesaf yr ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer buddsoddiad sylweddol i wella strydlun canol y dref ar fin cael ei lansio.
 
Mae'r cynlluniau'n canolbwyntio ar flaenoriaethu profiad cerddwyr, gwella cysylltiadau a bioamrywiaeth a chreu mannau cyhoeddus diogel a hygyrch sy'n gwella rhinweddau unigryw'r dref ar hyd y Stryd Fawr; gan gynnwys y Struet, y Stryd Fawr Uchaf, y Stryd Fawr Isaf a'r Gwrthglawdd.

Rydym wedi ystyried yr adborth a dderbyniwyd o ymgynghoriadau blaenorol ac yn falch o gyflwyno'r cynlluniau uchelgeisiol a ddatblygwyd hyd yma.
 
"Cam nesaf y broses yw arddangos y cynlluniau diweddaraf hyn yn Y Gaer, Aberhonddu o 24 Chwefror 2025 tan 16 Mawrth 2025." Esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach, "Mae sesiynau galw heibio wedi'u trefnu ar gyfer 24 Chwefror, 10am - 5pm a 12 Mawrth, 9:30am - 6:30pm, lle gallwch ofyn cwestiynau a thrafod y cynlluniau gyda staff.
 
"Ein nod yw ymgysylltu â chymaint o bobl a grwpiau â phosibl, gan sicrhau ein bod yn cydbwyso safbwyntiau holl ddefnyddwyr canol y dref, gan gynnwys, trigolion, grwpiau defnyddwyr penodol, a busnesau lleol. Yn ogystal â gallu gweld y cynlluniau a llenwi'r arolwg ymgynghori yn bersonol yn Y Gaer, bydd opsiwn ar gael ar-lein hefyd.
 
"Ein nod yw casglu barn ystod eang o unigolion a rhanddeiliaid er mwyn cwblhau cynlluniau ar gyfer y prosiect uchelgeisiol hwn, sy'n ceisio adfywio canol tref Aberhonddu, gan ei wneud yn lle mwy hygyrch a deniadol, a thrwy hynny fod o fudd i'r economi leol."
 
Yn ogystal â'r cynlluniau hyn, mae'r cyngor eisoes wedi hwyluso £800k o gyllid grant Trawsnewid Trefi i fusnesau lleol wella eiddo yng nghanol y dref. Bydd yr hwb sylweddol hwn yn helpu i adnewyddu siopau canol tref sydd wedi dirywio dros y blynyddoedd oherwydd diffyg buddsoddiad. Mae'r fenter Trawsnewid Trefi a'r cynlluniau i wella amgylchedd canol y dref wedi'u cynllunio i ysgogi twf economaidd yn y rhanbarth.

Mae cynlluniau wedi'u datblygu ar y cyd ag ymgynghorwyr, WSP, a byddant yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. 

Sut i ddweud eich dweud ar welliannau i ganol tref Aberhonddu?

Mae nifer o ffyrdd i weld a dweud eich dweud ar y cynigion: 

Gweld cynlluniau a chwblhau copi papur o'r ymgynghoriad yn Y Gaer, Aberhonddu, o 24 Chwefror 2025 tan 16 Mawrth 2025

Os byddai'n well gennych drafod y cynlluniau neu os oes gennych gwestiwn, bydd swyddogion ar gael yn Y Gaer, Aberhonddu, ar 24 Chwefror, 10am - 5pm a 12 Mawrth 9:30am - 6:30pm

Fel arall, cwblhewch yr ymgynghoriad ar-lein yn: www.dweudeichdweudpowys.cymru/canol-tref-aberhonddu o 24 Chwefror 2025 tan 23 Mawrth 2025

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu