Gwrthrychau o'r Oes Neolithig, Efydd a Haearn wedi'u dynodi yn ystod diwrnod darganfyddiadau

20 Chwefror 2025

Ddydd Sul 26 Ionawr, cynhaliodd Amgueddfa y Gaer Cyngor Sir Powys yn Aberhonddu Ddiwrnod Darganfyddiadau, gyda swyddogion o Amgueddfa Cymru, lle gofynnwyd i aelodau'r cyhoedd ddod ag unrhyw hen wrthrychau archeolegol diddorol i mewn.
Gyda llawer o bobl yn methu â theithio i Gaerdydd, rhoddodd hyn gyfle i'r rhai â gwrthrychau a ddarganfuwyd yn yr ardal leol, yn ogystal â rhannau eraill o'r wlad, gael eu hadnabod a'u cofnodi ar gyfer y Cynllun Henebion Cludadwy.
Er gwaethaf y tywydd, daeth tua 54 o unigolion a theuluoedd i'r diwrnod, er mwyn i Adelle Bricking o Gaerdydd, a Nicola Kelly o Abertawe, graffu ar eu gwrthrychau archeolegol. Cafodd cyfanswm o 70 o ddarganfyddiadau gan 13 o ddarganfyddwyr eu cymryd yn ôl i Gaerdydd i'w harchwilio ymhellach.
Darganfuwyd 50 o'r arteffactau ym Mhowys, fodd bynnag, darganfuwyd rhai mewn ardaloedd fel Sir Fynwy, Swydd Henffordd, Swydd Gaerloyw, ac roedd un yn dod o Ddyfnaint. Rhai o'r gwrthrychau a nodwyd oedd:
- Crafwr fflint - yn debygol o'r cyfnod Neolithig i'r Oes Efydd gynnar (c.4000-2200 BC) - cymuned Llanfrynach
- Bwyell fflans aloi copr a dorrwyd yn fwriadol, neu ei 'lladd yn ddefodol' cyn ei chladdu - Canol Oes yr Efydd (c.1500-1150 BC) - cymuned Ystradfellte
- Llestr 'Escutcheon' aloi copr mewn siâp pen ychen - Yr Oes Haearn Hwyr (c.100 BC-AD 100) - cymuned Crai
Ymhlith rai o'r gwrthrychau eraill a nodwyd oedd: tlysau a darnau arian Rhufeinig, sidell troell ganoloesol, tlysau crog harnais, darnau arian, pwysau masnach ôl-ganoloesol, teganau, mowntiau belt, byclau, a thlws crog croes o'r 18fed ganrif.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Mwy Diogel: "Mae'n wych gweld yr amrywiaeth o wrthrychau archeolegol sydd wedi cael eu darganfod ym Mhowys a thu hwnt. Diolch i Amgueddfa Cymru am fod yn bresennol. Mae hwn yn gyfle gwych i'r rhai a allai fod ag eitemau anhygoel ond na allant gyrraedd Caerdydd, i'w dangos a'u chofnodi.
"Mae hwn hefyd yn gyfle perffaith i arddangos y Gaer, oherwydd i lawer a fynychodd, yn ogystal â bod y tro cyntaf i'w gwrthrychau gael eu cofnodi ar gyfer y Cynllun Henebion Cludadwy, hwn oedd y tro cyntaf iddynt ymweld â'r adeilad hefyd.
"Edrychwn ymlaen at gynnal dyddiau darganfyddiadau pellach yn y dyfodol."
CAPSIWN Y LLUN: Nicola Kelly o Amgueddfa Cymru, yn archwilio darganfyddiadau a gyflwynwyd ar y diwrnod.