Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Byddwn yn cynnal gwaith cynnal a chadw ar wefan Cyngor Sir Powys ddydd Mercher, 12 Mawrth

Strategaeth Rhianta Powys

A group of children running across a park holding colourful balloons

10 Mawrth 2025

A group of children running across a park holding colourful balloons
Mae Strategaeth Rhianta Powys bellach ar gael i'w gweld ar adran rhianta gwefan y cyngor, meddai'r cyngor sir.

Un o amcanion allweddol Strategaeth Rhianta Powys yw bod pob gwasanaeth sy'n gweithio gyda rhieni yn deall ble maent yn ffitio i mewn i'r system gymorth a sut y gallwn gydweithio i gynnig ystod o gefnogaeth mewn amrywiaeth o ddulliau i gwrdd ag anghenion teuluoedd.

Buom yn gweithio gyda rhieni a rhanddeiliaid i ddatblygu'r strategaeth, sy'n cyd-fynd â fframweithiau a rhaglenni amrywiol, gan gynnwys y Strategaeth Cymorth Cynnar, Fframwaith NYTH/NEST, a Pathfinder: Rhaglen Trawsnewid Integreiddio Blynyddoedd Cynnar.

Mae'r mentrau hyn yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth hygyrch, cydgysylltiedig i deuluoedd, hybu iechyd meddwl a llesiant, a sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.

Meddai'r Cynghorydd Sandra Davies, Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol: "Mae profiadau plentyndod, rhai cadarnhaol a negyddol, yn cael effaith ar iechyd a llesiant plant.

"Ein huchelgais yw cynnig 'agwedd dim drws anghywir at wasanaethau' gan sicrhau bod teuluoedd yn cael cymorth ar yr amser cywir ac mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion.

"Bydd Strategaeth Rhianta newydd Powys ac adnoddau yn darparu ystod o gymorth mewn amrywiaeth o ddulliau i ddiwallu anghenion teuluoedd ar draws Powys."

I ddarllen y strategaeth yn llawn, ewch i: https://cy.powys.gov.uk/article/17988/Strategaeth-Rhianta-Powys-2024-2029

I gael mwy gwybod am y cymorth rhianta sydd ar gael i deuluoedd, ewch i: https://cy.powys.gov.uk/article/17310/Rhianta

Mae'r cyngor hefyd yn y broses o sefydlu Fforwm Rhianta ac yn chwilio am drigolion â chyfrifoldeb rhiant o bob rhan o'r sir i gymryd rhan a dod yn Gynrychiolwyr Rhieni Cymunedol. Ewch i: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/fforwm-rhianta-powys

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu