Mae Gwanwyn Glân Cymru yn dychwelyd i Bowys

10 Mawrth 2025

Mae Cyngor Sir Powys yn gweithio gyda'r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus i gefnogi Gwanwyn Glân Cymru. Gyda'i gilydd maen nhw'n galw ar unigolion, teuluoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau i gymryd rhan rhwng 21 Mawrth a 6 Ebrill.
Nod Gwanwyn Glân Cymru yw codi ymwybyddiaeth ac annog gweithredu cadarnhaol. Nid yn unig y mae sbwriel yn costio tua £70 miliwn i Gymru ei waredu bob blwyddyn, ond mae hefyd yn cael effeithiau dinistriol ar fywyd gwyllt morol a lleol. Y newyddion da yw bod codi sbwriel yn gam syml y gall unrhyw un ei wneud i wneud gwahaniaeth uniongyrchol a gweladwy i'w hardal.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Wyrddach, "Y llynedd, fe wnaeth 5,000 o wirfoddolwyr gymryd rhan mewn mwy na 700 o ymgyrchoedd glanhau ledled Cymru, felly eleni rydym yn gobeithio curo'r cyfanswm hwn a gwneud 2025 y gwanwyn glân mwyaf llwyddiannus eto.
"Rydym wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau ar draws y sir y gall gwirfoddolwyr ymuno â nhw, neu, gallwch fenthyg offer o'ch canolfannau casglu sbwriel lleol i drefnu eich digwyddiad glanhau cymunedol eich hun - ewch i Pecyn codi sbwriel am fwy o wybodaeth."
Mae rhai o'r digwyddiadau sydd eisoes wedi'u trefnu ym Mhowys yn cynnwys y canlynol:
- Dydd Gwener 21 Mawrth, 10:00 - 11:00 - Llyn Efyrnwy
- Dydd Gwener 21 Mawrth, 13:00 - 14:00 - Llanwydden
- Dydd Gwener 21 Mawrth, 12:00 - 13:00 - Pont Ar Daf (Storey Arms)
- Dydd Gwener 21 Mawrth, 13:00 - 14:00 - Llandrindod
- Dydd Sadwrn 22 Mawrth, 10:00 - 13:00 - Llanidloes
- Dydd Llun 24 Mawrth, 10:30 - 12:00 - Maldwyn
- Dydd Llun 24 Mawrth, 13:00 - 14:00 - Y Trallwng
- Dydd Iau 27 Mawrth, 11:00 - 12.30 - Aberhonddu - Ucheldiroedd
- Dydd Iau 27 Mawrth, 14:00 - 16:00 - Llangatwg
- Dydd Iau 27 Mawrth, 14:00 - 16:00 - Crughywel
- Dydd Iau 27 Mawrth, 10:30-11:30 - Cwm Elan
- Dydd Gwener 28 Mawrth, 10:00 - 11:00 - Llanrhaedyr Ym Mochant
- Dydd Sadwrn 29 Mawrth, 11:00 - 13:00 - Rhaeadr Gwy - Waun Capel Parc
- Dydd Sul 30 Mawrth, 09:00 - 11:00 - Caersws
- Dydd Llun 31 Mawrth, 14:00 - 15:00 - Cwmtwrch Isaf
- Dydd Llun 31 Mawrth, 11:00 - 12:00 - Y Drenewydd - Maesyrhandir
- Dydd Llun 31 Mawrth, 12:00 - 13:00 - Y Drenewydd - Pool Road
- Dydd Mawrth 1 Ebrill, 11:00 - 12:00 - Y Drenewydd - Canol y dref
- Dydd Mercher 2 Ebrill, 11:00 - 12:00 - Y Drenewydd - Y Faenor
- Dydd Mercher 2 Ebrill, 13:00 - 14:30 - Y Drenewydd - Trehafren
- Dydd Iau 3 Ebrill, 11:00 - 12:00 - Y Drenewydd - Treowen
- Dydd Iau 3 Ebrill, 11:00 - 12:00 - Cwm Elan
- Dydd Gwener 4 Ebrill, 11:00 - 12:00 - Y Drenewydd - Garthowen
- Dydd Sadwrn 5 Ebrill, 10:00 - 16:00 - Ystradgynlais
- Dydd Sadwrn 5 Ebrill, 11:00 - 14:00 - Y Drenewydd
- Dydd Sadwrn 5 Ebrill, I'w gadarnhau - Tref-y-clawdd
- Dydd Sul 6 Ebrill, 10:00 - 14:00 -Aberhonddu
Cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion.
Ychwanegodd Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus, Owen Derbyshire: "Eleni, mae ein neges yn glir: mae'r amgylchedd ar gyfer pawb. P'un a ydych chi'n tacluso'ch stryd, parc lleol, hoff draeth, neu lecyn prydferth, mae pob darn o sbwriel sy'n cael ei symud yn gwneud gwahaniaeth.
"Mae casglu sbwriel yn ffordd syml, rhad ac am ddim o fynd allan i'r awyr agored, rhoi hwb i'ch lles, a chymryd camau cadarnhaol i wella'ch cymuned. Felly, ewch i nôl codwr sbwriel, ewch allan i'r awyr agored, a gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i gadw Cymru'n daclus!"
I addo a chymryd rhan yng Ngwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus https://keepwalestidy.cymru/cy/