Treth y Cyngor: Pan fydd rhywun yn symud allan neu mewn / nôl i'ch cartref
Meddiannaeth Unigol (lle mai dim ond un oedolyn sy'n byw mewn eiddo)
Os mai chi yw'r unig oedolyn cymwys yn byw mewn eiddo, mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn disgownt o 25%. Gallai hyn ddigwydd oherwydd marwolaeth, gwahanu, ysgaru, neu hyd yn oed di ond oherwydd bod oedolyn arall wedi symud allan - neu unrhyw reswm arall.
Gwneud cais am Ddisgownt Meddiannaeth Sengl Citizen Access Revenues
Peidio â hawlio Meddiannaeth Unigol
Os ydych wedi bod yn hawlio Meddiannaeth Unigol a bod angen i chi beidio â'i hawlio - os nad chi yw'r unig oedolyn cymwys sydd bellach yn byw yn yr eiddo (mae rhywun wedi symud i mewn neu'n ôl yn byw gyda chi)
Trefniadau i fyfyrwyr
Efallai na fydd yn rhaid i oedolion sy'n fyfyrwyr, yn brentisiaid neu'n hyfforddeion dalu Treth y Cyngor. Os mai dim ond un oedolyn cymwys sydd ar ôl yn y tŷ, efallai y bydd yn cael disgownt o 25%.
Mae angen i fyfyrwyr fod ar gwrs llawnamser am o leiaf blwyddyn ac astudio am o leiaf 21 awr yr wythnos. Rhaid i brentisiaid fod mewn rhaglen hyfforddi sy'n arwain at gymhwyster ac yn ennill £195 neu lai yr wythnos. Gall hyfforddeion ifanc dan 25 oed mewn rhai rhaglenni hyfforddi gael eu heithrio hefyd.
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen we 'Cymorth i fyfyrwyr, prentisiaid a hyfforddeion'.
Os ydych yn symud i mewn/symud yn ôl at rywun
e.e. symud yn ôl i mewn gyda'ch rhieni ac mai y nhw fydd yn talu treth y cyngor neu eich bod yn symud i lety arall a rennir.
Yn yr ysbyty neu mewn gofal yn barhaol
Os oes oedolyn wedi symud allan o'ch ty i aros mewn ysbyty, cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio yn barhaol ni fydd yn gymwys i dalu Treth y Cyngor.
Os bydd eiddo'n wag yn barhaol, dylech
Dywedwch wrthym ni os yw'r eiddo heb ei feddiannu'n barhaol erbyn hyn Hawlio Eithriad
Pobl yn y carchar neu garchariad cyfreithlon arall
Os ydych chi neu oedolyn yn eich cartref wedi cael eich cadw trwy orchymyn llys yn y carchar, ysbyty neu unrhyw le arall, nid yw'r person hwnnw yn gymwys i dalu Treth y Cyngor.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth Ffurflen Ymholi ynglyn â Diystyru Gostyngiad Treth y Cyngor