Treth y Cyngor: Disgownt a gostyngiadau (pobl)
Treth y Cyngor: Help i bobl ag anabledd neu namau
Mae'n bosibl na fydd yn rhaid i chi dalu Treth y Cyngor yn llawn os oes anabledd arnoch chi neu rywun arall (o unrhyw oed) yn eich cartref. Mae'n bosibl na fydd yn rhaid i oedolion â nam difrifol ar eu meddwl dalu Treth y Cyngor.
Anabledd
Rhywun sydd yn sylweddol ac yn barhaol anabl yw rhywun anabl, boed hynny yn sgil salwch, anaf, nam cynhenid neu fel arall. Er mwyn bod yn gymwys i gael gostyngiad anabledd, rhaid i chi fod yn byw yn yr eiddo ond does dim rhaid i chi fod dros 18 oed..
Os ydych yn gymwys i gael help dan y cynllun yma, bydd eich bil Treth y Cyngor yn gostwng o un band eiddo.
Er enghraifft, os yw eich eiddo yn Band D, bydd eich bil treth yn cael ei seilio ar Band C. Os yw'r eiddo yn Band A, byddwch yn cael gostyngiad o nawfed rhan o dâl Band D.
Os yw eich eidddo eisoes wedi'i osod mewn band is, bydd hyn yn cael ei ddangos ar eich bil.
Mae'n bosibl y bydd angen i Swyddog Ymweld ddod i archwilio'r eiddo cyn gallu rhoi gostyngiad i chi.
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod â/ag:
- Ystafell ac eithrio ystafell ymolchi neu gegin sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion diwallu anghenion rhywun anabl.
Does dim rhaid i'r ystafell fod wedi'i hadeiladu'n na'i hychwanegu'n arbennig, ond ni fydd eich cartref yn gymwys i dderbyn gostyngiad oni bai fod yna newid o 'hanfodol neu o bwysigrwydd mawr' wedi digwydd.
Mae'n bosibl na fydd cyfnewid ystafelloedd - e.e. ystafell wely ar y llawr gwaelod yn hytrach na'r llawr cyntaf - yn golygu bod eich cartref yn gymwys ar gyfer gostyngiad.
- Ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol sy'n cael ei defnyddio ac sy'n ofynnol er mwyn diwallu anghenion rhywun anabl;
Does dim rhaid i'r ystafell fod wedi'i hadeiladu'n na'i hychwanegu'n arbennig, ond ni fydd eich cartref yn gymwys i dderbyn gostyngiad oni bai fod yna newid 'hanfodol neu o bwysigrwydd mawr' wedi digwydd.
Mae'n bosibl na fydd cyfnewid ystafelloedd - e.e. ystafell wely ar y llawr gwaelod yn hytrach na'r llawr cyntaf - yn golygu bod eich cartref yn gymwys ar gyfer gostyngiad.
- Digon o ofod llawr er mwyn gallu defnyddio cadair olwyn sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion rhywun anabl.
Nam Gwybyddol Sylweddol
Gall unrhyw un sydd wedi'i ardystio'n feddygol fel un sydd â Nam Gwybyddol Sylweddol (SCI) fod yn gymwys i gael esemptiad neu ostyngiad Treth Gyngor. Mae unigolyn yn destun SCI os oes ganddynt gyflwr meddyliol difrifol a pharhaol neu newid niwrolegol sy'n effeithio ar allu'r ymennydd i weithredu ac yn cael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd yr unigolyn hwnnw.
Mae cyflyrau sy'n gallu arwain at SCI neu salwch meddwl yn cynnwys clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia, clefyd Parkinson, anawsterau dysgu difrifol neu strôc, ond gall llawer o rai eraill fod yn berthnasol. Nid yw cael un o'r cyflyrau hyn ynddo'i hun yn golygu y bydd unigolyn yn cael diagnosis o SCI gan feddyg. Er mwyn bod yn gymwys i gael yr esemptiad/disgownt, rhaid i'r unigolyn gael diagnosis o SCI gan feddyg a rhaid iddo hefyd fod â hawl i un o'r budd-daliadau a restrir ar y ffurflen hon.
Esemptiad / Disgownt Treth Gyngor:
- Os ydych wedi cael diagnosis o SCI gan feddyg a'ch bod yn byw ar eich pen eich hun neu gydag eraill yn unig sydd â SCI, byddwch yn esempt rhag talu'r Dreth Gyngor.
- Os ydych wedi cael diagnosis o SCI gan feddyg a'ch bod yn byw gydag un oedolyn sy'n gymwys i dalu'r dreth gyngor, bydd eich cartref yn derbyn gostyngiad o 25%.
- Os ydych wedi cael diagnosis o SCI gan feddyg a'ch bod yn byw gyda 2 neu fwy o oedolion sy'n gymwys i dalu'r dreth gyngor, ni fydd unrhyw ostyngiad.
Mae esemptiad treth gyngor neu ddiystyru SCI yn berthnasol yn unig ond os ydych yn derbyn diagnosis o SCI gan feddyg a bod gennych hawl i un o'r budd-daliadau a restrir isod.
Os ydych chi'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau a restrir isod, cyflwynwch dystiolaeth, megis copi o'r llythyr dyfarnu neu'r ddogfen dalu.
- Lwfans Gweini
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Lwfans Byw i'r Anabl (elfen gofal cyfradd uwch neu ganolig)
- Cynnydd yng nghyfradd y pensiwn anabledd (lle mae angen presenoldeb cyson)
- Cymorth incwm (sy'n cynnwys premiwm anabledd)
- Atodiad neu Lwfans i'r Anghyflogadwy
- Lwfans Gweini Cyson
- Cyfradd safonol neu uwch elfen byw dyddiol taliad annibyniaeth personol
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- Credyd Cynhwysol (mewn amgylchiadau lle mae gan unigolyn allu cyfyngedig i weithio a/neu weithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith)
Ffurflen Ymholiad
Gofyn am ostyngiad yn Nhreth y Cyngor ar sail anabledd drwy'r Tîm Gyngor Ariannol Cais am Gyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan
Gwneud cais am ostyngiad os oes gennych Nam Gwybyddol Sylweddol neu os oes gennych rywun sy'n byw gyda chi sydd Citizen Access Revenues
