Treth y Cyngor: Disgownt a gostyngiadau (pobl)
Rhagymadrodd
Mae Treth y Cyngor yn seiliedig ar 2 neu fwy o oedolion cymwys yn byw yn yr un cartref.
Rhowch wybod i ni am unrhyw sefyllfa arall er mwyn gallu gwneud yn siŵr eich bod chi'n talu'r swm iawn o dreth y cyngor a ddim mwy. Efallai y gallwch hawlio disgownt treth y cyngor. Bydd y llyfryn defnyddiol iawn yn helpu chi ddeall a ydych chi'n gallu talu llai o dreth y cyngor.
Allwch chi ddim cael gostyngiad ar eich Treth y Cyngor dim ond oherwydd eich bod yn cael trafferth i'w dalu. Os ydych chi'n cael anhawster i dalu'ch Treth y Cyngor, gallwch siarad â ni i weld a allwn ni eich helpu.
Rhaid i chi ddweud wrthym ni ar unwaith os oes newid yn eich amgylchiadau. Gallai methu â gwneud hyn arwain at Orfodi Cosb Treth y Cyngor arnoch. Os ydych chi'n anghytuno â'r gosb sy'n cael ei gorfodi arnoch, mae'n bosibl y byddwch yn awyddus i drafod hyn gyda ni yn gyntaf. Neu, gallwch wneud apêl uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru