Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Datgelu cynlluniau Trawsnewid Addysg ar gyfer Ysgol Calon Cymru

Image of Ysgol Calon Cymru

14 Mawrth 2025

Image of Ysgol Calon Cymru
Mae cynlluniau uchelgeisiol gan y cyngor sir i drawsnewid addysg yng nghanol Powys, a allai weld ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i bob oed yn cael ei sefydlu yn ogystal â buddsoddiad sylweddol mewn adeiladau dwy ysgol, i gael eu hystyried gan y Cabinet yn ddiweddarach y mis hwn.

Fel rhan o'i raglen Trawsnewid Addysg, mae Cyngor Sir Powys wedi bod yn ystyried opsiynau ar sut i symud ymlaen â'i gynlluniau ar gyfer Ysgol Calon Cymru.

Byddai'r cynigion cyffrous yn helpu'r cyngor i gyflawni ei ddyheadau a amlinellwyd yn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA) ar gyfer 2022-32 yn ogystal ag alinio â'i Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys.

Y cynigion, a fyddai'n cael eu cyflwyno mewn dau gam, yw:

Cam 1 (Medi 2027)

Ysgol Gymraeg newydd

Byddai ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i bob oed (4-18) yn cael ei sefydlu ar gampws presennol Llanfair-ym-Muallt yn Ysgol Calon Cymru. Byddai hyn yn golygu'r canlynol:

  • Byddai pob holl ddisgyblion cyfrwng Cymraeg Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfair-ym-Muallt yn trosglwyddo i'r ysgol cyfrwng Cymraeg pob oed newydd ym mis Medi 2027 ac ni fyddai gan Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfair-ym-Muallt ffrwd Gymraeg mwyach.
  • Byddai darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer Blynyddoedd 7, 8 a 9 hefyd ar gael yn yr ysgol newydd gyda disgyblion yn trosglwyddo o Ysgol Calon Cymru.
  • I ddechrau, byddai'r ysgol newydd hon yn rhannu campws Llanfair-ym-Muallt gydag Ysgol Calon Cymru gyda rhan o'r adeilad yn cael ei ailfodelu i gynnwys llety addas a diogel ar gyfer disgyblion oed cynradd. Byddai disgyblion yn parhau i allu ymuno ag Ysgol Calon Cymru ar gyfer darpariaeth cyfrwng Saesneg ar gampysau Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod.
  • Byddai hyn yn drefniant dros dro hyd nes y bydd gwaith i wella ac ymestyn campws Ysgol Calon Cymru yn Llandrindod wedi ei gwblhau.

Ysgol Calon Cymru

  • fis Medi 2027 byddai Ysgol Calon Cymru yn parhau i fod â ffrwd cyfrwng Cymraeg ar gyfer Blwyddyn 10 ymlaen ond bydd hyn yn dod i ben yn raddol erbyn Medi 2029.
  • Byddai disgyblion oed uwchradd sy'n dymuno cael darpariaeth cyfrwng Saesneg yn parhau i allu cael mynediad i gampws Llanfair-ym-Muallt yn Ysgol Calon Cymru, nes bod cyfleusterau newydd ar gael ar gampws Llandrindod.

Cam 2 (Medi 2029 ar y cynharaf):

  • Yn dilyn buddsoddiad cyfalaf ar gampws Llandrindod i wella'r cyfleusterau, byddai Ysgol Calon Cymru wedyn yn cau ei champws yn Llanfair-ym-Muallt ac yn gweithredu o gampws Llandrindod yn unig. Byddai cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol yn cael ei ddarparu i bob dysgwr cymwys.
  • Byddai'r ysgol cyfrwng Cymraeg newydd i bob oed wedyn yn cymryd drosodd holl gampws Llanfair-ym-Muallt.

Ddydd Mawrth, 25 Mawrth, bydd y Cabinet yn ystyried y cynigion a gofynnir iddynt ddechrau'r broses statudol.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar faterion Bowys yn Dysgu: "Mae'r cynnig cyffrous hwn yn cynrychioli'r cam nesaf wrth gyflawni ein cynlluniau strategol ar gyfer addysg ym Mhowys. Byddant yn ein symud gam yn nes at gyflawni ein Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys a Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

"Mae wedi bod yn amlwg ers sawl blwyddyn bod model dau safle Ysgol Calon Cymru yn achosi heriau ac nad yw'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol ei hun a'r dalgylch ehangach yn bodloni ein dyheadau ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

"Byddai'r cynigion yn gweld sefydlu'r ysgol bob oed cyfrwng Cymraeg gyntaf yng nghanol Powys a fyddai'n darparu gwell profiad cyfrwng Cymraeg i'n dysgwyr ac yn caniatau i ni hefyd fedru darparu cwricwlwm ehangach i ddysgwyr cyfrwng Saesneg i gyd ar un campws, gan ddileu'r angen i ddyblygu darpariaeth cyfrwng Saesneg ar draws dau safle.

"Fel rhan o'n cynigion, byddem yn buddsoddi yn y ddau gampws i sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei addysgu mewn cyfleusterau'r 21ain Ganrif a fydd yn eu galluogi i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn."

Bydd y cynigion yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau'r cyngor ddydd Iau, 20 Mawrth.

I ddarllen Strategaeth y Cyngor ar gyfer Trawsnewid Addysg 2020-2032 a manylion y Rhaglen Trawsnewid Addysg - Ton 2 (2022 - 2027) ewch i Trawsnewid Addysg

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu