Datblygu fframwaith newydd i drawsnewid profiad y cwsmer

18 Mawrth 2025

Gweledigaeth y cyngor yw darparu profiad ardderchog i gwsmeriaid - y tro cyntaf, bob tro. Er mwyn helpu i gyflawni'r weledigaeth hon, mae'r cyngor wedi cyflwyno ei Fframwaith Profiad Cwsmeriaid cyntaf un.
Mae'r fframwaith yn ymwneud â sicrhau bod rhyngweithio rhwng pobl â'r cyngor yn ddefnyddiol ac yn adeiladol bob tro.
Rhan allweddol o'r fframwaith yw Siarter Gwasanaethau Cwsmeriaid y cyngor, sy'n amlinellu'r safonau a'r ymddygiadau y gall cwsmeriaid eu disgwyl gennym ni a'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan ein cwsmeriaid.
Mae'r fframwaith hefyd yn cynnwys saith egwyddor profiad cwsmeriaid, a fydd yn llywio sut mae'r cyngor yn dylunio ac yn darparu ei wasanaethau i sicrhau profiad cadarnhaol a chydlynol i gwsmeriaid. Mae hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu, sef map ffordd y cyngor i gyflawni rhagoriaeth cwsmeriaid.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys: "Mae ein Fframwaith Profiad Cwsmeriaid yn sicrhau bod yr holl ryngweithio rhwng cwsmeriaid â Chyngor Sir Powys yn ddefnyddiol ac yn adeiladol.
"Dylai pawb sy'n rhyngweithio â'r cyngor weld gwahaniaeth pendant i'w taith fel cwsmeriaid, beth bynnag fo'u pwynt mynediad. Nid yw'r newid hwn yn ymwneud â gwneud mwy, mae'n ymwneud â bod yn well."
Datblygwyd y fframwaith gyda mewnbwn gan ein cwsmeriaid. Bellach, mae'r cyngor yn gofyn i breswylwyr gwblhau arolwg byr sy'n mynegi eu barn ac yn helpu i fireinio'r fframwaith.
Cwblhewch yr arolwg, ewch i www.dweudeichdweudpowys.cymru/profiad-cwsmeriaid erbyn dydd Llun, Mai 12.
I ddarllen y Fframwaith Profiad Cwsmeriaid, ewch i Profiad Cwsmeriaid.