Adolygiad i'r Disgownt i Berson Sengl

Rydym yn parhau i adolygu disgowntiau a fydd yn helpu i adnabod ceisiadau twyllodrus ymhlith talwyr treth y cyngor sy'n ceisio twyllo'r system.
Bob blwyddyn mae awdurdodau lleol ar draws y wlad yn derbyn nifer fawr o geisiadau am ddisgownt i berson sengl. Yn anffodus nid yw pob un o'r ceisiadau hyn yn rhai go iawn, a'r un fath â'r rhai sy'n hawlio budd-daliadau ar gam, mae'r bobl hyn yn hawlio gostyngiadau ffug ar eu biliau.
Trwy ddeddfwriaeth, mae'n bosibl erlyn twyllwyr treth y cyngor yr un fath â thwyllwyr budd-daliadau, a hynny trwy'r llysoedd a'u gorfodi i ad-dalu'r arian.
Byddwn bob amser yn sicrhau bod pob cais am ddisgownt yn rhai go iawn. Ond, ar adegau fe all fod yn anodd esbonio amgylchiadau. I helpu yn y sefyllfaoedd hyn, rydym wedi cynnwys rhai cwestiynau cyson sy'n gallu codi dros gyfnod yr adolygiad.
Adolygu eich manylion
Bydd y system yn gofyn i chi logio mewn trwy ddefnyddio eich rhif PIN unigryw (bydd y rhif PIN ar y llythyr anfonwyd atoch). Byddwch chi hefyd angen eich rhif cyfrif treth y cyngor a'ch cod post.
Beth i'w wneud os ...
Nid ydych wedi derbyn llythyr
Os nad ydych wedi derbyn llythyr eto, peidiwch â phoeni. Bydd yr arolwg yn mynd ymlaen am ychydig eto. Er mwyn ein helpu ni reoli ein hadnoddau a'n llwyth gwaith, byddwn yn cysylltu â phobl dros gyfnod hir o amser. Trwy rannu'r gwaith fel hyn, gallwn roi gwell gwasanaeth i'n trigolion.
Os yw eich amgylchiadau chi wedi newid yn ddiweddar ac nad ydych wedi derbyn llythyr, rhowch wybod i ni trwy'r dudalen newid amgylchiadau..
Rydych wedi colli'r llythyr ac nid ydych yn gwybod eich PIN
Ffoniwch 01597 729052 i ofyn am lythyr arall.
Mae gennych PIN ond nid yw'n gweithio
Os nad yw'r rhif yn gweithio gwnewch yn si?r eich bod yn cofnodi'r wybodaeth fel y mae'n ymddangos yn y llythyr. Os yw'n dal i wrthod gweithio, ffoniwch 01597 729052 neu llenwch y ffurflen sydd ar gefn y llythyr.
Nid ydych yn gwybod cyfeirnod y cyfrif
Eich cyfeirnod yw rhif cyfrif Treth y Cyngor ac fe welwch y rhif ar dop eich llythyr.
Nid oes gennych gyfeirnod cyfrif
Os nad ydych yn siŵr beth yw eich un chi, cysylltwch â revenues@powys.gov.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ewch i'r adran Cwestiynau Cyson ar Ddisgowntiau i Berson Sengl