Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Sefydliadau'n rhannu grant o £30,000 i helpu i fynd i'r afael â thlodi plant

Image of kids playing sports, gardening, arts and crafts and a group of children

20 Mawrth 2025

Image of kids playing sports, gardening, arts and crafts and a group of children
Mae dros 35 o sefydliadau ledled Powys wedi rhannu grant gwerth £30,000 i helpu i gyflwyno ystod o weithgareddau a digwyddiadau i gefnogi teuluoedd a phlant sy'n profi tlodi neu sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw.

Wedi'i gyflwyno gan Gyngor Sir Powys i helpu i fynd i'r afael â thlodi plant yn y sir, roedd y Mentrau Peilot ar gyfer Ymgysylltu Lleol yn gynllun grant bach oedd ar gael i sefydliadau gyflwyno mentrau a digwyddiadau yn canolbwyntio ar y gymuned i gefnogi teuluoedd incwm isel, teuluoedd sy'n profi tlodi neu sy'n cael eu heffeithio gan gostau byw.

Ariannwyd y cynllun diolch i Gynllun Tlodi Plant: Grant Arloesi a Chefnogi Cymunedau gan Lywodraeth Cymru, y llwyddodd y cyngor i'w sicrhau y llynedd.

Mae ystod amrywiol o weithgareddau wedi'u trefnu ledled Powys diolch i'r cynllun, gan ddod â chefnogaeth oedd ei angen yn fawr ar deuluoedd a phlant. Mae rhai o'r gweithgareddau hyn yn cynnwys:

  • Rhaglenni aml-chwaraeon yn Nhref-y-clawdd, y Drenewydd a'r Trallwng, gan ymgysylltu â phlant rhwng pedair a 12 oed mewn gweithgareddau corfforol yn ystod hanner tymor
  • Gweithgareddau celfyddydol i'r teulu yn Llanfair Caereinion, Llanfyllin a Threfaldwyn i feithrin creadigrwydd ac ysbryd cymunedol
  • Sesiynau dawns wythnosol yn Aberhonddu i blant hyd at bump oed
  • Clwb brecwast yn Llandrindod lle roedd plant yn mwynhau brecwast iachus a gweithgareddau creadigol gyda'i gilydd.

Meddai'r Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach: "Bydd y mentrau a'r digwyddiadau hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol ym mywydau'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan dlodi a'r argyfwng costau byw yn ein sir.

"Trwy ddarparu cefnogaeth a chyfleoedd hanfodol i deuluoedd a phlant, rydym yn meithrin cymuned gryfach, fwy gwydn.

"Rydym yn hynod falch o ymdrechion yr holl grwpiau a sefydliadau i drefnu'r digwyddiadau hyn ac yn ddiolchgar am y cyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn bosibl."

Dywedodd Clair Swales, Prif Weithredwr PAVO: "Mae mentrau sy'n cefnogi lles plant yn allweddol i adeiladu sir ddisgleiriach a thecach ar gyfer y cenedlaethau i ddod.

"Diolch i bawb sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ym Mhowys, gan rymuso sefydliadau cymunedol i greu cyfleoedd sy'n helpu teuluoedd i ffynnu er gwaethaf heriau ariannol."

Meddai'r Cynghorydd Joy Jones, Hyrwyddwr Gwrth-Dlodi Cyngor Sir Powys: "Bydd y gweithgareddau a'r digwyddiadau a ariennir drwy'r Mentrau Peilot ar gyfer Ymgysylltu Lleol yn cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd a phlant ledled Powys ac maent yn hanfodol wrth fynd i'r afael â'r heriau a achosir gan dlodi a'r argyfwng costau byw.

"Diolch o galon i'r holl sefydliadau sy'n cymryd rhan a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth werthfawr."

Derbyniodd y sefydliadau canlynol gyllid gan y Mentrau Peilot ar gyfer Ymgysylltu Lleol:

  • Activ8Kids: £3,810 ar gyfer rhaglen aml-chwaraeon pum niwrnod yn Nhref-y-clawdd, y Drenewydd a'r Trallwng i blant 4-12 oed yn ystod hanner tymor.
  • Cyswllt Celf - Arts Connection: £1,077 ar gyfer sesiynau celf i'r teulu yn Llanfair Caereinion, Llanfyllin, a Threfaldwyn.
  • Ysgol Gynradd Aberriw: £463.87 ar gyfer taith cyn y Nadolig i Gastell Powis a chinio Nadolig i blant a rhieni.
  • Dechrau'n Deg Aberhonddu: £630 ar gyfer sesiynau dawns wythnosol i blant 0-5 oed.
  • Clwb Ieuenctid Aberhonddu: £500 ar gyfer sesiynau Coginio Da i bobl ifanc 11-25 oed.
  • Cylch Chwarae Tal-y-bont Trewern: £258 ar gyfer sesiynau aros a chwarae mewn canolfan arddio leol i blant 3-4 oed a'u rhieni, a chinio i ddilyn.
  • Celf o Gwmpas: £1,500 am 12 wythnos o glybiau brecwast fore Sadwrn gydag opsiynau iach a deunyddiau crefft.
  • Ysgolion Bro (Aberhonddu): £350 ar gyfer sesiynau galw heibio ar gyfer rhieni i ymgysylltu â'r Swyddog Cyswllt Teulu a'r gwasanaethau cymorth.
  • Ysgolion Bro a Dechrau'n Deg: £600 am sesiwn Hwyl Am Ddim yn ystod hanner tymor mis Chwefror yn Aberhonddu, gan gynnwys profiad anifeiliaid a phaentio wynebau.
  • Cultivate (Cwm Harry) Cyfyngedig: £1,000 ar gyfer sesiynau coginio mewn tair ysgol, gan ddiweddu gyda phryd o fwyd cymunedol.
  • Cylch Meithrin Carno a Ti a Fi: £1,000 am weithgareddau am ddim i blant 2-4 oed, gan gynnwys supasrikers, Emma's Donkeys, clwb coginio, a chwarae anniben.
  • Cylch Meithrin y Drenewydd: £400 ar gyfer sesiynau Pêl-droed Aml-sgiliau i blant bach 3-4 oed.
  • Cylch Dolau: £450 am de prynhawn gyda Siôn Corn, gan gynnwys cinio picnic, crefftau Nadolig, ac anrhegion.
  • Cymdeithas Hamdden Dolau: £914 am ddigwyddiadau am ddim, gan gynnwys nosweithiau ffilm i deuluoedd.
  • Ti a Fi Dolau: £500 ar gyfer sesiynau wythnosol i blant 0-5 oed, gan gynnwys chwarae anniben, ymweliad â fferm, adrodd straeon, a phaentio crochenwaith.
  • Meithrinfa Enfys Fach (Aberhonddu): £550 ar gyfer gweithgareddau Nadolig i blant 2-4 oed a'u teuluoedd, gan gynnwys gweithdy gwneud torchau, parti Nadolig, noson ffilmiau, a pharti nofio.
  • Clwb Ieuenctid Feathers (Y Trallwng): £700 ar gyfer gweithgareddau i bobl ifanc 12-16 oed, gan gynnwys teithiau i Black Hawk Laser, Inflation, a Chlwb Pêl-droed Tref Amwythig.
  • Canolfan Gymunedol Tref-y-clawdd a'r cylch: £534 ar gyfer gweithdai i bobl ifanc 11-16 oed, gan gynnwys addurniadau Nadolig a bisgedi San Ffolant.
  • Ysgolion Bro Llandrindod: £350 ar gyfer boreau Coffi a Croissant i rieni drafod pryderon a chael mynediad at wasanaethau cymorth.
  • Ysgol G.G Maesyrhandir: £500 ar gyfer digwyddiad aml-asiantaeth yn cynnig darpariaethau a chefnogaeth hanfodol, gan gynnwys arddangosiadau coginio.
  • Mind Canolbarth a Gogledd Powys: £1,497 ar gyfer sesiynau wythnosol i bobl ifanc 16-25 oed, gan gynnwys diodydd poeth am ddim, tost, gweithdai celf a chrefft, a gweithgareddau chwaraeon.
  • Canolfan Integredig i Deuluoedd Y Drenewydd: £600 ar gyfer tri digwyddiad ymgysylltu ar gyfer teuluoedd Dechrau'n Deg, rhieni sengl, a thadau Dechrau'n Deg gyda phlant 0-5 oed.
  • Canolfan Integredig i Deuluoedd Y Drenewydd: £1,500 i ehangu ei wasanaeth Banc Babanod gyda gofod pwrpasol, oriau estynedig, a sesiynau ychwanegol.
  • NPTC: £2,700 ar gyfer sesiynau ar gampysau Aberhonddu a'r Drenewydd i godi ymwybyddiaeth o gymorth tlodi a darparu cotiau cynnes a phecynnau hylendid.
  • Undeb Myfyrwyr NPTC: £750 ar gyfer prosiect i godi ymwybyddiaeth o ailgylchu dillad ac ymgynghori ar dlodi, gan gynnwys Caffi Atgyweirio a mynediad at ddillad a garwyd gynt.
  • Oriel Davies Gallery (Y Drenewydd): £1,000 ar gyfer gweithdai creadigol tri diwrnod o hyd i bobl ifanc 12-18 oed gydag artist proffesiynol a gweithiwr ieuenctid.
  • Dechrau'n Deg Powys: £450 am daith i fferm deuluol leol i deuluoedd Dechrau'n Deg.
  • Gwasanaeth Dechrau'n Deg ac Ysgolion Powys: £490 ar gyfer digwyddiad gwybodaeth ac ymgysylltu i deuluoedd, gan gynnwys gweithgareddau crefft a chyfleoedd chwarae.
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Priordy: £350 ar gyfer pedair sesiwn Cynhesu'r Gaeaf gydag arddangosiadau coginio a sesinau galw heibio aml-asiantaeth am gymorth.
  • Sinema Regent (Y Drenewydd): £350 ar gyfer dangosiad ffilm Noswyl Nadolig am ddim o Home Alone 2: Lost in New York gyda byrbrydau, diodydd ac anrhegion i blant.
  • Rekindle (Y Drenewydd): £786 ar gyfer taith farchogaeth i bobl ifanc 16-25 oed, gan gynnwys rheoli stablau a thrin ceffylau.
  • Asiantaeth Ynni Hafren Gwy: £300 ar gyfer Diwrnod Gwybodaeth i Deuluoedd yn Llandrindod ar arbed ynni, cyngor ariannol, a diogelu rhag sgam, gan gynnwys Banc Babanod a Chyfnewidfa Gwisgoedd.
  • Ysgol yr Eglwys yng Nghymru y Trallwng: £84 ar gyfer sesiynau galw heibio wythnosol i rieni/gofalwyr.
  • Canolfan Integredig i Deuluoedd Y Trallwng: £784 am dair sesiwn gelf i bobl ifanc 12-25 oed, gan ddiweddu gydag arddangosfa gyda phrydau bwyd.
  • Ysgol Golwg Y Cwm: £430 ar gyfer digwyddiadau cymorth aml-asiantaeth sy'n tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i deuluoedd yn Ystradgynlais.
  • Ysgol Maesydderwen a Chyngor Sir Powys: £1,000 ar gyfer prosiect garddio teuluol/cymunedol gyda thair sesiwn ar ôl ysgol, pob un yn para tua thair awr.
  • Ysgol Trefonnen: £300 ar gyfer digwyddiad llythrennedd i'r teulu, i bobl ifanc 0-17 oed a'u teuluoedd.
  • Tîm Cyswllt Teuluoedd Ystragynlais: £500 ar gyfer digwyddiad ymgysylltu â dysgu teuluol yn Ysgol Golwg Y Cwm, gan gynnwys sesiynau coginio i feithrin sgiliau cegin.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu