Cyflwyniad i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn fenter gan Lywodraeth y DU sydd wedi'i chynllunio i gefnogi cymunedau a busnesau lleol led led y wlad, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol a gyrru twf economaidd. Ym Mhowys, mae'r gronfa hon wedi bod yn allweddol wrth greu sir fwy llewyrchus a gwydn, gan fynd i'r afael â heriau allweddol a manteisio ar gyfleoedd i gefnogi datblygiad cynaliadwy.
Drwy fuddsoddi strategol, mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn canolbwyntio ar dair blaenoriaeth allweddol: Cefnogi Busnesau Lleol, Cymunedau a Lle a Phobl a Sgiliau. Nod y gronfa yw grymuso cymunedau lleol, creu swyddi newydd, gwella sgiliau, a chodi ansawdd bywyd trigolion ar draws Powys.
Yn ogystal, mae Lluosi yn fenter allweddol o fewn Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, sydd wedi'i llunio i wella sgiliau rhifedd oedolion led led y DU. Mae'n cynnig cymorth i oedolion wella eu gallu mathemategol, sy'n hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd, gwaith a rheoli cyllid personol.
Mae cyfanswm o £2.6 biliwn wedi'i fuddsoddi ar draws y DU i gefnogi'r ymdrechion hyn rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2025.
Cafodd Rhanbarth Canolbarth Cymru £42.4 miliwn, gyda Phowys yn derbyn £27 miliwn o'r cyfanswm hwn.