Beth mae'r Gronfa wedi'i Gyflawni ym Mhowys

Ers ei lansio ym mis Rhagfyr 2022, mae'r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi gwneud gwahaniaeth mesuradwy ym Mhowys. Drwy brosiectau a mentrau sydd wedi'u dewis yn ofalus, disgwylir i'r rhaglen gyflawni:
- 128 o brosiectau wedi'u cymeradwyo a'u cyflwyno led led Powys.
- Cyflwyno dros £3 miliwn o gyllid wedi'i neilltuo ar gyfer cefnogaeth uniongyrchol i fusnesau.
- Cefnogi creu dros 300 o swyddi newydd a diogelu dros 200 o swyddi yn y sir.
- Ariannu dros 37 o brosiectau i wella gwasanaethau lleol, mannau cymunedol a seilwaith, gan greu cymunedau gwydn, diogel ac iach i drigolion.
- Hwyluso datblygu sgiliau newydd ac uwchsgilio'r gweithlu, gan fuddsoddi ym mywydau cannoedd o unigolion.
Mae'r canlyniadau hyn ond yn ddechrau, a bydd etifeddiaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn parhau i sbarduno twf ac arloesedd ym Mhowys am flynyddoedd i ddod.