Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Sefydliadau cyhoeddus Cymru yn addo dull newydd sy'n canolbwyntio ar y rhai sydd mewn profedigaeth a'r rhai sydd wedi goroesi trasiedïau cyhoeddus

Charter for Families Bereaved by Public Tragedy

26 Mawrth 2025

Charter for Families Bereaved by Public Tragedy
Mae sefydliadau ledled Cymru wedi llofnodi siarter sy'n eu hymrwymo i ymateb i drasiedïau cyhoeddus yn agored, yn dryloyw ac yn atebol.

Mae'r Siarter ar gyfer Teuluoedd mewn Profedigaeth oherwydd Trasiedi Gyhoeddus yn galw am newid diwylliannol yn ymgysylltiad cyrff cyhoeddus â theuluoedd mewn profedigaeth, gan sicrhau bod trychineb Hillsborough 1989 a'i chanlyniad yn cael eu cofio er mwyn atal y rhai sy'n cael eu heffeithio gan drasiedi gyhoeddus yn y dyfodol rhag cael yr un profiad.

Mae sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, heddluoedd a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a gwasanaethau tân ac achub, i gyd wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd mewn profedigaeth a'r gymuned yn dilyn digwyddiad mawr, gydag ymrwymiad clir i bobl ac i ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad.

Cynhaliwyd digwyddiad lansio ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth 18 Mawrth, gyda Chadeirydd Cyngor Powys, y Cynghorydd Jonathan Wilkinson, yn bresennol ac yn llofnodi'r siarter ar ran Cyngor Sir Powys.

Roedd yr Esgob James Jones KBE, a ysgrifennodd y siarter fel rhan o'i adroddiad ar wersi o drasiedi Hillsborough, hefyd yn bresennol. Ymunodd y galarwyr a goroeswyr trasiedïau cyhoeddus ag ef, gan gynnwys Hillsborough, Tŵr Grenfell, Arena Manceinion ac Aberfan, sydd ychydig filltiroedd yn unig o'r lansiad.

Dywedodd yr Esgob Jones: "Heddiw mae cenedl Cymru yn arwain y ffordd gyda dros 50 o'i chyrff cyhoeddus yn arwyddo'r siarter. Wrth wneud hynny, mae diwylliant y sefydliadau wedi dechrau newid, ac mae ymrwymiad o'r newydd i wasanaethau cyhoeddus ac i barchu dynoliaeth y rhai y cawn ein galw i'w gwasanaethu.

"Mae'r siarter yn cynrychioli addewid - ar ôl unrhyw drasiedi yn y dyfodol, ni fydd unrhyw un yn cael eu gadael i lywio eu galar a'u goroesiad ar eu pen eu hunain, ac ni fydd unrhyw un yn dioddef eto yr 'agwedd nawddoglyd o bŵer anatebol'.

"Mae hon yn adeg hollbwysig ym mywyd y genedl wrth i ni gofleidio egwyddorion y siarter ac addo parchu dynoliaeth ei holl ddinasyddion a ddylai fod wrth galon pob gwasanaeth cyhoeddus."

Dywedodd Dawn Docx, Prif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, cadeirydd y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru: "Rydym yn cydnabod bod cydweithredu wrth gefnogi teuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan drasiedi gyhoeddus yn hanfodol i sicrhau lles a gwydnwch ein cymunedau.

"Trwy gydweithio, gallwn ddefnyddio ein harbenigedd a'n hadnoddau ar y cyd i ddarparu cymorth ystyrlon i'r rhai sydd mewn angen ar adegau o argyfwng a thu hwnt."

Ychwanegodd Mark Travis, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru: "Drwy lofnodi'r siarter, mae pob sefydliad yn gwneud datganiad cyhoeddus i ddysgu gwersi o drychineb Hillsborough a thrychinebau eraill i sicrhau na fyddwn byth yn anghofio persbectif teuluoedd mewn profedigaeth ac i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu trin â gofal a thosturi, nid yn unig ar adeg o argyfwng a thrasiedi ond yn yr wythnosau, misoedd a blynyddoedd ar ôl hynny.

"Er bod heddiw yn garreg filltir, yr her go iawn yw gwreiddio'r siarter yn ein hyfforddiant a'n diwylliant i sicrhau ei fod yn dod yn rhan annatod o'n hymateb i unrhyw drasiedi gyhoeddus.

"Mae cyfranogiad y rhai mewn profedigaeth a goroeswyr trasiedi gyhoeddus wedi bod yn sbardun i ddatblygu'r cam pwysig hwn heddiw."

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Bowys Ddiogelach: "Wrth fabwysiadu'r Siarter, mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'n partneriaid i sicrhau bod ei egwyddorion yn cael eu dilyn; gan flaenoriaethu urddas a chefnogaeth i bawb sy'n cael eu heffeithio gan drasiedi.

"Mae'r Siarter yn ein galluogi i gwrdd ag anghenion a disgwyliadau ein trigolion a'n cymunedau, pe baem yn wynebu trychineb cyhoeddus sylweddol neu ddigwyddiad sy'n arwain at golli bywyd yn y dyfodol."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu