Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Ôl-ofal Adran 117 yng Nghymru

Darperir gan DCC Interactive Ltd

Cynulleidfa Darged: Timau Gwaith Cymdeithasol / Swyddogion Adolygu Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Modd Cyflwyno: Hyfforddiant Rhithwir trwy TEAMS

Nod:

Bydd yr hyfforddiant hwn yn darparu trosolwg cynhwysfawr o'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cyllid ôl-ofal Adran 117.

Canlyniadau Dysgu:

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys y canlynol:

  •  Trosolwg o ôl-ofal Adran 117 fel dyletswydd ar y cyd, annibynnol
  •  Y fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer sefydlu cyfrifoldeb iechyd ar gyfer ôl-ofal Adran 117, gan gynnwys sut i gymhwyso Rheoliadau Cyfrifoldebau'r GIG 2022 a chanllawiau diweddaru Pwy sy'n Talu 2022
  •  Y fframwaith cyfreithiol ar gyfer sefydlu cyfrifoldeb gofal cymdeithasol ar gyfer ôl-ofal adran 117,  gan gynnwys effaith penderfyniad y Llys Apêl yn Swydd Gaerwrangon - mewn perthynas â Chymru
  •  Y cysyniad o breswyliaeth gyffredin a chanllawiau ar sut i ddynodi lle mae person yn preswylio fel arfer
  •  Sut i fynd i'r afael ag anghydfod comisiynu posibl a gweithio drwyddynt gan gynnwys trosolwg o reoliadau anghydfodau awdurdodau lleol a phroses gyflafareddu Pwy sy'n Talu ac
  •  Astudiaethau achos i helpu mynychwyr i ddeall sut i gymhwyso'r fframwaith cyfreithiol yn ymarferol

Dyddiadau ac Amserau:

16 Ebrill 2025, 9.00am - 12.30pm

15 Hydref 2025, 9.00am - 12.30pm

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Ffurflen Datgan Diddorddeb ar gyfer Cyrsiau Hyfforddiant

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu