Lleoliadau Trawsffiniol Preswylfa Arferol a'r Agweddau Cyfreithiol
Darperir gan DCC Interactive Ltd
Cynulleidfa Darged:Timau Gwaith Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion
Cyflwynwyd: Rhithwir trwy TEAMS
Nod:
Bydd yr hyfforddiant hwn yn sefydlu beth mae preswylfa arferol yn ei olygu a bydd yn ceisio tywys awdurdodau lleol trwy gymhlethdod lleoliadau sy'n ymwneud â materion trawsffiniol yng Nghymru a draw i Loegr. Bydd y cwrs hwn yn cynnwys cyfraith galluedd meddyliol ar leoliadau trawsffiniol ar gyfer lleoliadau gofal a Threfniadau Diogelu Wrth Amddifadu o Ryddid (DOLS).
Canlyniadau Dysgu:
Gall y gyfraith sy'n llywodraethu gwneud penderfyniadau ar gyfer neu ar ran oedolion sydd heb allu gwneud penderfyniadau hefyd fod yn agwedd bwysig ar leoliadau trawsffiniol.
Nod y cwrs yw cefnogi'r gyfraith berthnasol :Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (sy'n berthnasol yng Nghymru a Lloegr) yng Nghymru - Cylchlythyr WOC 41/93: 'Preswylfa arferol - gwasanaethau cymdeithasol personol' (i'w ddisodli gan y Cod Ymarfer statudol sy'n ymwneud â rhan 11 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) o fis Ebrill 2016 ymlaen).
Bydd yr hyfforddiant hwn yn cynnwys amlinellu peth o'r gyfraith achos bwysig er mwyn cyfarwyddo a phenderfynu. Fel araith yr Arglwydd Scarman yn 'R. v London Borough of Barnet ex p Shah [1983] 2 AC 30'. Cadarnhaodd hyn y geiriau 'preswylfa arferol' a'r hyn a elwir yn 'brawf Shah'. Mae anawsterau'n codi wrth gymhwyso prawf Shah i benderfynu ar breswylfa arferol oedolyn sydd heb allu i benderfynu drosto 'i hunain ble i fyw. Yn achos 'R. v Waltham Forest LBC Ex p Vale', felly, addasodd y llys brawf Shah a sefydlu dull dwy ran ar gyfer pennu'r preswylfa arferol a phenderfyniad mwy diweddar 'R. (Cyngor Cernyw) v Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd', y Goruchaf Lys.
Dyddiadau ac Amseroedd:
16 Ebrill 2025, 1.00pm - 4.30pm
15 Hydref 2025, 1.00pm - 4.30pm
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Ffurflen Datgan Diddorddeb ar gyfer Cyrsiau Hyfforddiant