Cabinet yn cymeradwyo Achos Busnes Amlinellol ar gyfer adeiladu ysgol newydd ym Mhontsenni

8 Ebrill 2025

Mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu adeiladu ysgol gynradd newydd â 120 o leoedd yn lle adeilad presennol Ysgol Gynradd Gymunedol Pontsenni.
Heddiw (dydd Mawrth, 8 Ebrill) cymeradwyodd y Cabinet yr Achos Busnes Amlinellol, a fydd nawr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo.
Cymeradwyodd y Cabinet hefyd i bapur opsiynau gael ei ddatblygu i archwilio symud yr ysgol ar hyd y continwwm iaith Gymraeg oherwydd y cynnydd yng nghyfran y disgyblion yn yr ysgol sy'n dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag bydd trafodaethau gyda'r ysgol yn cael eu cynnal i gefnogi hyn.
Bydd y cynlluniau'n helpu'r cyngor i gyflawni ei Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys a'i Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys yn Dysgu: "Nid yw adeilad presennol Ysgol Gynradd Gymunedol Pontsenni yn addas i ddiwallu anghenion cwricwlwm yr 21ain ganrif nac i ddiwallu anghenion llesiant disgyblion.
"Bydd yr ysgol newydd ar gyfer Pontsenni yn darparu cyfleusterau y mae'r plant yn eu haeddu a bydd yn galluogi'r cwricwlwm i gael ei gyflwyno mewn ffordd barhaus a chydlynol o'r Cyfnod Sylfaen hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Gellir cydleoli darpariaeth gofal plant blynyddoedd cynnar ar un safle fel rhan o'r cynlluniau hyn.
"Os caiff yr Achos Busnes Amlinellol ei gymeradwyo gan y Cabinet a Llywodraeth Cymru, byddai hyn yn cynrychioli buddsoddiad enfawr arall yn ein seilwaith ysgolion.
"Byddwn hefyd yn dechrau edrych ar y posibilrwydd o symud Ysgol Gynradd Gymunedol Pontsenni ar hyd y continwwm iaith Gymraeg, a allai olygu, yn y dyfodol, y byddai holl ddisgyblion yr ysgol yn dod yn gwbl ddwyieithog - yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.
"Fodd bynnag, er ein bod wedi cael rhai trafodaethau cychwynnol ynglŷn â'r cynlluniau hyn gydag arweinwyr yr ysgol, mae'r cynigion i newid categori iaith yr ysgol yn parhau yn eu cyfnod cynnar. Bydd hyn yn gofyn am ymgynghoriad ffurfiol gyda chymuned yr ysgol, y gymuned ehangach a rhanddeiliaid allweddol eraill cyn gweithredu unrhyw newidiadau."
I gael rhagor o wybodaeth am Drawsnewid Addysg ym Mhowys, ewch i Trawsnewid Addysg
I ddarganfod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, ewch i Addysg Cyfrwng Cymraeg