Cynlluniau Newydd ar gyfer Cyfleoedd Dydd

10 Ebrill 2025

Cafodd y model newydd ei ddatblygu ar ôl sesiynau ymgysylltu cadarn gyda nifer dda yn bresennol, ac mae'n canolbwyntio ar gynhwysiant cymunedol, cynyddu annibyniaeth, a chefnogi pobl i fyw eu bywydau, yn eu ffordd eu hunain.
Mae cyfleoedd dydd yn helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn y gymuned, gan ddefnyddio amrywiaeth o adeiladau a chymorth yn y gymuned.
Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar, y Cynghorydd Sian Cox: "Ein gweledigaeth yw cael model cyfleoedd dydd sy'n cefnogi pobl i adeiladu bywyd iach a buddiol gan gyfranogi ym mhob agwedd o'u cymuned a'u cymdeithas, yn gallu cymryd rhan yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw ac sy'n cefnogi gofalwyr di-dal i wneud yr un peth.
"Y brif elfen o'n model newydd yw bod pobl yn gallu gwneud y mwyaf o'u lles personol mewn ffyrdd sy'n gweithio iddyn nhw fel unigolion, gan ddewis o blith ystod eang o gyfleoedd cymdeithasol, gwaith a hamdden, gan ddefnyddio ac adeiladu ar y cryfderau sydd ganddynt eisoes, gyda ffocws ar annog iechyd a byw'n annibynnol; a gyda seibiant cyson, dibynadwy, di-bryder i ofalwyr."
Mae cyfleoedd dydd ym Mhowys yn cael eu harwain gan Wasanaethau Oedolion ac yn cael eu darparu drwy gymysgedd o wasanaethau statudol a chymorth trydydd sector wedi'i gomisiynu, sydd ar hyn o bryd yn cael mynediad at wasanaethau a leolir mewn adeiladau, ac amrywiaeth o weithgareddau cymunedol fel clybiau cinio, clybiau gweithgareddau a gwasanaethau trydydd sector lleol.
O dan fodel newydd Powys, bydd pawb sy'n derbyn cyfle dydd ar hyn o bryd yn parhau i'w dderbyn, boed hynny drwy wasanaeth traddodiadol, byw â chymorth, taliad uniongyrchol neu ddull arall. Bydd y model newydd yn darparu mwy o gapasiti mewn meysydd allweddol ac yn darparu dull mwy hyblyg a chynaliadwy o gefnogi pobl i ddiwallu'r canlyniadau sy'n bwysig iddyn nhw.
Mae gan y model arfaethedig dair haenen o angen; Cefnogaeth Ataliol, Cefnogaeth Bersonol, a Gwasanaethau Arbenigol, gan gydnabod y bydd gan unigolion sy'n elwa o gyfleoedd dydd lefelau amrywiol o angen ac y gallai hyn newid dros amser wrth i anghenion gynyddu oherwydd oedran neu salwch, neu wrth iddynt ddod yn annibynnol.
Mae angen cyfnod byr o gymorth ar rai pobl i wireddu eu dyheadau, tra bydd angen cymorth dwys arbenigol tymor hwy ar eraill.
Bydd y model newydd arfaethedig yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Iechyd a Gofal y Cyngor ar 16 Ebrill a bydd yn destun ymgysylltu cyhoeddus cyn ei roi ar waith.