Canolfan Iaith
Beth yw Trochi?
'Trochi', neu addysg drochi iaith, yw'r cyfle i ddysgu iaith ychwanegol drwy ymdrochi'n llwyr yn yr iaith gyda gwersi dwys neu aml. Yn y Ganolfan Iaith, ein nod yw galluogi disgyblion sydd am ymuno ag ysgol neu ffrwd Gymraeg yn hwyr (wedi 7 oed) i ddatblygu rhuglder yn y Gymraeg mewn cyfnod byr.
Sut y mae'n gweithio?
Mae dysgwyr yn mynychu'r Ganolfan Iaith pedwar diwrnod yr wythnos am gyfnod o 12 wythnos. Os oes angen, fe fydd y Cyngor yn darparu cludiant.Mae grwpiau yn y Ganolfan Iaith yn llai ac maent wedi'u cefnogi gan athrawes a chymhorthydd arbenigol. Mae staff yn cyfathrebu'n rheolaidd gyda'r fam-ysgol a rhieni/gofalwyr. Rydym yn monitro cynnydd y disgyblion ac yn darparu cefnogaeth iddynt nol yn yr ysgol yn dilyn eu cyfnod yn y Ganolfan Iaith.
Sut brofiad yw hi?
Mae staff y Ganolfan Iaith yn dilyn rhaglen iaith sydd wedi'i strwythuro'n ofalus, gyda ffocws ar yr elfen lafar a phatrymau iaith. Mae'r addysgu'n hwylus ac yn apelgar, ac yn cynnwys profiadau ar draws y meysydd dysgu. Mae'r amgylchedd yn gynhwysol gyda phwyslais ar fagu hyder disgyblion i ddefnyddio'r iaith.
Beth mae pobl yn ei ddweud am y Ganolfan Iaith?
Dw i wedi cael llawer o hwyl. Dw i wedi mwynhau coginio a chwarae gemau tu allan
- Disgybl
Y peth gorau a wnes i erioed i'm plant. Maent wedi magu cymaint o hyder. Roedd y staff yn arbennig ac mae'r cymorth dilynol yn anhygoel.
- Rhiant
Daeth fy nau fab i mewn heb lawer o Gymraeg o gwbl, ac nawr mae nhw'n sgwrsio ac yn ceisio dysgu ni!
- Rhiant
Rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y disgyblion a fynychodd y Ganolfan. Mae'r staff wedi bod yn gefnogol iawn. Roedd cael gweld gweithgareddau'r plant ar y grŵp Teams yn ddefnyddiol iawn.
- Pennaeth
I gofrestru am fwy o wybodaeth, cysylltwch â bethan.price5@powys.gov.uk / 01597 827 088