Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Y daith ddwyieithog

The Bilingual Journey

Y Blynyddoedd Cynnar

Gallwch chi ddechrau cyflwyno'ch babi i'r Gymraeg o'r cychwyn cyntaf - hyd yn oed yn ystod beichiogrwydd, mae babanod yn gallu clywed lleisiau a cherddoriaeth. Defnyddiwch pa bynnag Gymraeg sydd gennych chi - boed hynny'n siarad Cymraeg â'ch babi, canu rhai hwiangerddi Cymraeg, neu dim ond rhoi sianel deledu S4C ymlaen er mwyn iddyn nhw glywed y Gymraeg.

Mae'r rhaglen Cymraeg i Blant  yn cynnig cymorth ymarferol i rieni ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u plentyn. Mae staff Cymraeg i Blant ym Mhowys yn cynnig gweithgareddau hwyliog, cyfrwng Cymraeg am ddim gan gynnwys sesiynau tylino babanod, ioga babanod ac amser stori a chân. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle gwych i rieni gymdeithasu a dechrau defnyddio'r Gymraeg gyda'u baban. Does dim angen bod yn siaradwr Cymraeg i gymryd rhan - mae croeso i bawb.

Mae'r Cylch Ti a Fi  yn rhoi cyfle i rieni/gofalwyr babanod/plant ifanc gyfarfod unwaith yr wythnos i gymdeithasu, rhannu profiadau am sgiliau rhianta, a chwarae gyda'i gilydd mewn awyrgylch Cymraeg anffurfiol. Yn y Cylch Ti a Fi gallwch fwynhau gwneud ffrindiau newydd, chwarae gyda theganau, dysgu canu caneuon Cymraeg syml a gwrando ar straeon Cymraeg gyda'ch plentyn.

Mae'r Cylch Meithrin yn gylch chwarae cyfrwng Cymraeg sy'n cynnig cyfle i'ch plentyn gymdeithasu a dysgu drwy chwarae o dan arweiniad staff proffesiynol a chymwysedig. Drwy fynychu'r Cylch Meithrin bydd eich plentyn yn dechrau ar ei daith i addysg Cyfrwng Cymraeg a bydd yn datblygu'n unigolyn hyderus yn barod i gymryd y cam naturiol nesaf i addysg Gymraeg yn yr ysgol.

Gwneud cais am le cyn-ysgol

Ysgol Gynradd

Dewis addysg cyfrwng Cymraeg yw'r ffordd orau i blant ddod yn ddwyieithog - yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ym Mhowys, gall dysgwyr dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu drwy ffrwd cyfrwng Cymraeg mewn ysgol dwy ffrwd. Mewn ysgolion dwy ffrwd, mae darpariaeth Gymraeg a Saesneg yn bodoli ochr yn ochr, fodd bynnag fel arfer dim ond disgyblion yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg sy'n dod yn ddwyieithog.

Mae addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob plentyn sy'n byw ym Mhowys. Os nad oes ysgol neu ffrwd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal lle rydych chi'n byw, bydd Cyngor Sir Powys yn darparu cludiant i'r darparwr cyfrwng Cymraeg agosaf.

Mae addysg Cyfrwng Cymraeg ar gael i bob plentyn sy'n byw ym Mhowys. Os nad oes ysgol neu ffrwd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal lle rydych yn byw, bydd Cyngor Sir Powys yn darparu cludiant i'r darparwr cyfrwng Cymraeg agosaf.

Rhestr o ysgolion sy'n cynnig addysg Gymraeg.

Edrychwch ar dod o hyd i ysgol ym Mhowys i gael rhagor o wybodaeth am bob ysgol, gan gynnwys manylion cyswllt, gwefannau ac adroddiadau Estyn.

Gwneud cais am le mewn ysgol gynradd neu iau

Ysgol Uwchradd

Er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cadw ac yn datblygu eu sgiliau yn y Gymraeg a'r Saesneg mae'n bwysig eu bod yn parhau i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol uwchradd. Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael mewn sawl uwchradd ddwy ffrwd ar draws Powys. Yn yr ysgolion hyn, mae'r ddarpariaeth Gymraeg a Saesneg yn bodoli ochr yn ochr, ond fel arfer dim ond y disgyblion yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg sy'n ddwyieithog.

Edrychwch ar Dod o hyd i ysgol ym Mhowys i gael rhagor o wybodaeth am bob ysgol, gan gynnwys manylion cyswllt, gwefannau ac adroddiadau Estyn.

Yn ne-ddwyrain y sir mae dysgwyr yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu