Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.

Cyflwynwyd gwobrau i 12 o bileri'r gymuned

12 community stalwarts presented with awards

08 Mai 2025

12 community stalwarts presented with awards
Naw unigolyn, clwb moduro a cheir ysgafn sydd wedi rhoi hwb o £2 filiwn i'r economi leol, ymddiriedolaeth gelfyddydol, a phwyllgor neuadd bentref, yw'r rhai diweddaraf ym Mhowys i dderbyn gwobrau Barcud Arian.

Mewn seremoni a gynhaliwyd ddydd Mawrth 29 Ebrill yn Neuadd y Sir, Llandrindod, cyflwynodd Cadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Jonathan Wilkinson, wobrau'r Barcud Arian i naw unigolyn a thri sefydliad am eu hymrwymiad eithriadol i'w cymunedau. Sef:

  • Laura Greatorex-Hares, o'r Trallwng, sydd, er ei bod yn defnyddiwr cadair olwyn, wedi lansio Hafan Gymunedol y Trallwng yn 2022. Mae'r grŵp yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i ddarparu gwasanaethau sydd eu hangen ar y gymuned. Mae Laura yn gweithio'n ddiflino i gadw'r Hafan Gymunedol ar agor, gan sicrhau cyllid, grantiau, staff a gwirfoddolwyr, yn ogystal â threfnu rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau wythnosol.
  • Ann Bufton, sydd wedi bod yn bianydd ac yn aelod allweddol o Gôr Meibion Llanfair-ym-Muallt ers 40 mlynedd. Wrth iddi ymddeol yn ddiweddar, mae'r wobr hon yn cydnabod ei gwasanaeth i'r côr, i'r bobl ifanc a gafodd werslyfrau ganddi, a'r miloedd o bobl sydd wedi gwrando ar ei pherfformiadau mewn cyngherddau, priodasau a gwasanaethau angladd.
  • Elizabeth Bowen, sydd wedi bod yn biler y gymuned gan ddal llawer o swyddi, gan gynnwys rhedeg grŵp chwarae Ysgol Cantal, yn ogystal â gweithio fel gofalwr a glanhawr, goruchwyliwr amser cinio ac amser chwarae yn Ysgol Gynradd Gymunedol Llanbister - rôl y mae'n parhau ynddi hyd at heddiw. Mae Elizabeth hefyd wedi ymgymryd â sawl rôl yn CFfI Cantal, gan gynnwys Arweinydd Clwb a Llywydd, ac wedi cynnal y Rali ddwywaith. Yn ogystal â chodi arian, ac eistedd ar bwyllgor neuadd y pentref, mae Elizabeth hefyd yn rhedeg clwb i aelodau hŷn, gan drefnu gweithgareddau fel sgyrsiau, torri gwallt, gwneud torchau, crochenwaith ac ymarfer corff. Ers Covid, mae hi wedi ymgymryd â rôl Warden Eglwys Llanbister.
  • Mae clwb moduro a cheir ysgafn Rhaeadr Gwy wedi cael cydnabyddiaeth am eu hymdrechion i gefnogi'r diwydiant chwaraeon moduro yn ogystal â'r gymuned leol a'r diwydiant twristiaeth. Ym mis Awst 2024, daeth EnduroGP y byd i Fryn Cwmythig; digwyddiad tri diwrnod a ddenodd 160 o gystadleuwyr, gwneuthurwyr, rheolwyr tîm, criwiau cymorth a noddwyr, yn ogystal â thua 12,000 o wylwyr i'r ardal leol. Amcangyfrifir bod y digwyddiad wedi cyfrannu £2 filiwn i'r economi leol. Mae'r clwb moduron hwn nid yn unig yn buddsoddi yn y gamp maen nhw'n ei charu, ond yng nghanolbarth Cymru yn gyfan gwbl.
  • Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae Ymddiriedolaeth Celfyddyd Brycheiniog wedi cefnogi'r gwaith o ehangu a datblygu'r casgliad celf rhanbarthol yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog yn Aberhonddu. Ym mis Chwefror, agorodd yr Ymddiriedolaeth arddangosfa pedwar mis o hyd i ddathlu'r casgliad o arwyddocâd cenedlaethol hwn, gyda David Moore yn guradur. Fodd bynnag, gyda dros gant o ddarnau o gelf yn cael eu harddangos, yn darlunio'r ehangder o waith a ysbrydolwyd gan Sir Frycheiniog, dim ond hanner y gweithiau a gefnogir gan yr Ymddiriedolaeth yw hyn.
  • Mae tîm Neuadd Bentref Cleirwy wedi gweithio'n ddiflino, ac yn aml o dan amgylchiadau heriol iawn, i alluogi'r neuadd i newid o fod yn adeilad sy'n dirywio i'r ganolfan bentref brysur sydd gennym heddiw. Mae wedi cael ei hadnewyddu, a chael dodrefn newydd, ac mae'n dod i'r amlwg fel grym cryf a chydlynol yng nghymuned y pentref, gyda chyfoeth o weithgareddau yn digwydd yno fel, cerddoriaeth, caffis galw heibio, nosweithiau cwis, grwpiau theatr, dod ynghyd ar gyfer Nos Galan, a thafarn dros dro, sydd hefyd yn cynnwys pitsas a bwyd Caribïaidd.
  • Lin a John Edwards, o'r Drenewydd, sydd wedi bod yn gefnogwyr mawr i'r rhai mewn gofal maeth. Maen nhw wedi cael eu cydnabod am eu gwasanaeth wrth faethu plant, yn enwedig eu hymrwymiad i faethu babanod sydd angen cartref diogel a sefydlog.
  • Ivor Jones, o Ddolfor, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio ac adeiladu'r Neuadd Gymunedol newydd yn Nolfor yn 2006. Ochr yn ochr â hyn, mae'r CFfI bob amser wedi bod yn bwysig iddo, yn enwedig y cyfleoedd y mae'n eu cynnig i bobl ifanc mewn cymunedau gwledig. Fel aelod, bu'n dal pob rôl o fewn y clwb, cyn dod yn Arweinydd y Clwb am dros 30 mlynedd, ac yna'n Llywydd CFfI Sir Drefaldwyn. Mae Ifor yn aelod o Bwyllgor William Buckley Pugh, ac mae wedi dal swyddi ar Bwyllgor Sioe a Chwaraeon am 50 mlynedd ac mae'n aelod gweithgar o Bwyllgor y Gronfa Gymunedol. Heddiw mae'n gwasanaethu fel ysgrifennydd pulpud ar gyfer Eglwys Ryddion Dolfor, gan fod yn rhan o ailadeiladu'r Capel ym 1981.
  • Chris Roberts, o Feifod, sydd wedi bod yn aelod gweithgar iawn o'r gymuned ers blynyddoedd lawer, ond mewn ffordd dawel a diymhongar. Bu'n gadeirydd y pwyllgor hamdden am flynyddoedd ac am ddwy o'r blynyddoedd hynny bu'n goruchwylio gwerthu'r hen neuadd bentref ac adeiladu'r un newydd. Mae Chris wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y Neuadd yn rhedeg yn esmwyth, sy'n ganolbwynt i holl weithgareddau'r pentref. Er nad yw'n gadeirydd mwyach, mae bob amser wrth law i helpu, er enghraifft, gyda'r sain a'r goleuadau ar gyfer y pantomeim blynyddol.
  • Graham Buckley, o Dregynon, sy'n aelod allweddol o'r gymuned gan weithio'n galed yn y cefndir heb ddisgwyl unrhyw ddiolch. Mae Graham yn ddyn caredig, sydd bob amser yno os oes angen help ar bobl. Yn y gorffennol, mae wedi creu chwythwr eira wedi'i osod ar dractor i helpu i glirio'r ffyrdd yn ei ardal.
  • Eric Edwards, o'r Drenewydd, sy'n 93 oed ac wedi cael ei gydnabod am ei ymdrechion i helpu i wneud Powys yn lanach ac yn wyrddach. Mae Eric yn aml i'w weld yn cerdded trwy'r Drenewydd, gan ddefnyddio ei droli siopa fel trol glanhau strydoedd byrfyfyr ar gyfer codi sbwriel. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, amcangyfrifir bod Eric wedi treulio o leiaf 400 o oriau gwirfoddol yn casglu sbwriel, gan gerdded dros 500 milltir, a chasglu bron i 1,000 o fagiau sbwriel yn y broses. Mae Eric hefyd yn gwirfoddoli'n rheolaidd gydag elusen leol, Cultivate, gan drosglwyddo ei wybodaeth garddio i'r genhedlaeth iau ac wrth wneud hynny, yn helpu i ysbrydoli pawb i fod yn iachach ac yn wyrddach. 

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd Jonathan Wilkinson: "Hoffwn ddiolch i'r rhai a gymerodd yr amser i gyflwyno'r enwebiadau hyn. Mae'n anrhydedd ac yn fraint fawr cael cyflwyno'r gwobrau hyn i aelodau o gymuned Powys.

"Roedd pob enillydd yn haeddiannol am amrywiaeth o wahanol resymau, a phawb yr un mor haeddiannol â'i gilydd, ac rwy'n gobeithio bod y wobr hon yn cynnig rhywfaint o gydnabyddiaeth am y gwaith, y cyflawniad a'r gwahaniaeth, maen nhw'n ei wneud i'n cymunedau.

"Mae pob un ohonynt wedi dangos perfformiad eithriadol, neu wedi cael effaith wirioneddol yn eu cymunedau, ac maen nhw'n wirioneddol haeddiannol o'u gwobr. Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd."

Mae gwobrau'r Barcud Arian yn wobrau dinesig a gyflwynir i bobl sy'n byw ym Mhowys ac sydd wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl yn eu cymunedau neu wedi cyflawni rhywbeth eithriadol yn eu maes. Gwneir enwebiadau i Gadeirydd y Cyngor drwy gydol y flwyddyn gan Gynghorwyr a'u dyfarnu yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu