Talu am barcio gyda'ch ffôn symudol

16 Mai 2025

Mae gan lawer o feysydd parcio'r cyngor beiriannau talu ac arddangos sy'n derbyn taliadau cerdyn, ond o ddydd Mawrth 20 Mai, bydd pob maes parcio yn derbyn taliadau drwy eich ffôn symudol gan ddefnyddio'r ap PayByPhone.
Trwy ddefnyddio PayByPhone, gellir cychwyn a chwblhau sesiwn barcio mewn tair gam cyflym;
- nodi rhif y lleoliad (a ddangosir ar yr arwyddion ger y peiriannau talu ac arddangos)
- dewis pa mor hir yr hoffech barcio
- a thalu.
Trwy ddefnyddio PayByPhone i dalu am eich parcio, gallwch hefyd ymestyn eich sesiwn barcio o bell trwy'r ap heb orfod dychwelyd i'ch cerbyd. Gallwch hefyd ddewis cael negeseuon testun atgoffa pryd mae eich sesiwn barcio ar fin dod i ben.
Dywed y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach: "Mae'r opsiwn i dalu am barcio drwy eich ffôn symudol ym mhob maes parcio'r cyngor wedi cyrraedd Powys. Bydd yr ap PayByPhone yn ychwanegiad ardderchog i'n cyfleusterau maes parcio. Mae llawer ohonom yn gweld bod gwneud taliadau parcio symudol yn fwy cyfleus yn y pen draw, gan nad oes angen i chi boeni am gael yr arian cywir gyda chi tra byddwch chi allan."
Gallwch lawrlwytho'r ap PayByPhone o'r Siop Apiau neu Siop Google Play neu ymweld â gwefan PayByPhone www.paybyphone.co.uk am fwy o fanylion