Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.

Ethol arweinydd newydd y cyngor

Image of Cllr James Gibson-Watt and Cllr Jake Berriman

16 Mai 2025

Image of Cllr James Gibson-Watt and Cllr Jake Berriman
Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ddoe (15 Mai), etholwyd y Cynghorydd Jake Berriman yn Arweinydd newydd Cyngor Sir Powys.

Mae'r Cynghorydd Berriman yn cymryd yr awenau oddi wrth y Cynghorydd James Gibson-Watt, a gyhoeddodd yn gynharach y mis hwn y byddai'n camu i lawr ar ôl tair blynedd.

Ar ôl cael ei ethol am y tro cyntaf i'r cyngor sir fel cynghorydd ar gyfer ward Gogledd Llandrindod ym mis Hydref 2019, penodwyd y Cynghorydd Berriman yn Aelod y Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys ym mis Mai 2022.

"Mae'n anrhydedd cael fy ethol yn arweinydd newydd Cyngor Sir Powys ac rwy'n ymwybodol iawn bod cryfder y cyngor hwn yn gorwedd yn ei amrywiaeth a'i gydweithrediad," meddai'r Cynghorydd Berriman.

"Nid oes gan unrhyw grŵp unigol yr holl atebion, ac mae pob llais a phleidlais yn bwysig. Rwy'n gweld siambr unedig drwy ymrwymiad cyffredin i wasanaethu ein cymunedau, a chredaf y gallwn adeiladu ar hynny i sicrhau gwell canlyniadau gyda'n gilydd.

"Bydd fy arweinyddiaeth yn weladwy, yn hygyrch ac yn seiliedig ar wrando. Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd, gyda pharch tuag at ein gilydd, i fynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau - yn enwedig yn y meysydd addysg, gofal cymdeithasol, a chostau byw.

"Rwyf wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau cynhwysol, cynllunio cyllideb deg, a chynnal gwasanaethau rheng flaen cryf. Gyda'n gilydd, gallwn greu Powys gryfach, decach, wyrddach."

Fel rhan o'i araith dderbyn, talodd y Cynghorydd Berriman deyrnged i'w ragflaenydd am ei waith fel Arweinydd yn ystod cyfnod heriol ac am hyrwyddo Powys yn lleol ac yn genedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Berriman, Arweinydd y Cyngor: "Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i James am y llaw gadarn y mae wedi ei ddefnyddio yn y rôl ers 2022, ac am y gefnogaeth y mae wedi'i dangos i mi wrth i mi gamu ymlaen ar yr adeg hon. Mae wedi gosod sylfeini cadarn o fewn y cyngor a ledled Cymru drwy ei arddull cydweithredol.

"Mae James wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd gwleidyddol Powys, ac mae ei enw'n gyfystyr â gwasanaeth cyhoeddus ymroddedig.  Yn sicr fe fydd yn anodd llenwi ei esgidiau, ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar am yr hyder a'r gefnogaeth y mae wedi'i roi i mi.

"Rwy'n falch iawn bod James wedi cytuno i barhau i chwarae rhan allweddol o fewn y cyngor fel Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Ffyniannus tan ddiwedd mis Medi ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio ag ef."

Yn dilyn ei ethol, cadarnhaodd y Cynghorydd Berriman aelodaeth ei Gabinet newydd:

Aelod CabinetPortffolio
Y Cynghorydd Jake Berriman: Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bobl, Perfformiad a Phartneriaethau
  • Busnes y Cabinet 
  • Datblygu a chynnal partneriaethau gan gynnwys y Cydbwyllgor Corfforaethol a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Gwasanaethau Pobl - Datblygu a Chefnogi'r Gweithlu ac Aelodau
  • Iechyd a Diogelwch Corfforaethol gan gynnwys Cadeirydd ar y cyd y Cydbwyllgor Cenedlaethol 
  • Rheoli Perfformiad Corfforaethol
  • Cynllunio Datblygu Strategol a Lleol
  • Eiddo gan gynnwys Ffermydd y Sir
Y Cynghorydd Matthew Dorrance: Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach
  • Gwasanaeth Tai, gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr
  • Mynd i'r Afael â Thlodi gan gynnwys y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
  • Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, gan gynnwys Addewid y Rhuban Gwyn
  • Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Partneriaeth a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog
  • Ffoaduriaid

Y Cynghorydd James Gibson-Watt (hyd at 30 Medi 2025) / Y Cynghorydd Glyn Preston (o 1 Hydref 2025): Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Ffyniannus

  • Datblygu Fframwaith Economaidd Strategol ar gyfer Powys, gan nodi cyfleoedd twf ac adfywio cynaliadwy
  • Sicrhau cyfleoedd buddsoddi economaidd ledled Ardaloedd Powys i gefnogi creu lleoedd cynaliadwy, adfywio trefol ac adfywiad gwledig
  • Cefnogi Bargen Twf Canolbarth Cymru a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol i greu a darparu cyfleoedd economaidd a chyfleoedd i ddysgwyr
  • Dysgu ôl-16 a datblygu sgiliau, partneriaethau a darparwyr AU, AB a dysgu seiliedig ar waith ac yn y gymuned

Y Cynghorydd David Thomas: 

Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaetho

  • Cyflawni rhaglen Trawsnewid Powys Gynaliadwy
  • Cyllid
  • Caffael, Incwm a Dyfarniadau a Chynllunio Busnes Integredig
  • Rheoli risg

Y Cynghorydd Sian Cox: Aelod Cabinet dros Bowys Ofalgar

  • Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Chomisiynu
  • Rhaglen Llesiant Gogledd Powys 
  • Integreiddio'r System Ofal â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Datblygu Ymgysylltiad Cymunedol i gefnogi gweitho lleol

Y Cynghorydd Richard Church: Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio

  • Iechyd yr Amgylchedd a diogelu'r cyhoedd
  • Safonau Masnach
  • Cynllunio Argyfwng a Diogelwch Cymunedol
  • Gwasanaethau Rheoli Datblygu a Rheoli Adeiladu
  • Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Gwasanaethau'r Ombwdsmon, y Crwner a'r Cofrestrydd

Y Cynghorydd Pete Roberts: Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu

  • Addysg
  • Rhaglen Trawsnewid Ysgolion

Y Cynghorydd Jackie Charlton: Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach

  • Newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio
  • Priffyrdd ac Ailgylchu
  • Trafnidiaeth, gan gynnwys cludiant o'r cartref i'r ysgol
  • Gwasanaethau Cefn Gwlad
  • Materion amgylcheddol

Y Cynghorydd Sandra Davies: Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol

  • Gwasanaethau Plant 
  • Cyfiawnder Ieuenctid 
  • Gwasanaethau Ieuenctid
  • Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol
  • Y Gymraeg

Y Cynghorydd Raiff Devlin: Aelod Cabinet dros Gwsmeriaid, Gwasanaethau Digidol a Chymunedol

  • Gwasanaethau Cwsmeriaid a Llywodraethu Gwybodaeth
  • Rhaglen Powys Ddigidol
  • Hamdden a Diwylliant, gan gynnwys Theatrau, Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd ac Archifau  
  • Cefnogi'r Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy ar gyfer Powys gan gynnwys Arlwyo a Glanhau 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu