Ethol arweinydd newydd y cyngor

16 Mai 2025

Mae'r Cynghorydd Berriman yn cymryd yr awenau oddi wrth y Cynghorydd James Gibson-Watt, a gyhoeddodd yn gynharach y mis hwn y byddai'n camu i lawr ar ôl tair blynedd.
Ar ôl cael ei ethol am y tro cyntaf i'r cyngor sir fel cynghorydd ar gyfer ward Gogledd Llandrindod ym mis Hydref 2019, penodwyd y Cynghorydd Berriman yn Aelod y Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys ym mis Mai 2022.
"Mae'n anrhydedd cael fy ethol yn arweinydd newydd Cyngor Sir Powys ac rwy'n ymwybodol iawn bod cryfder y cyngor hwn yn gorwedd yn ei amrywiaeth a'i gydweithrediad," meddai'r Cynghorydd Berriman.
"Nid oes gan unrhyw grŵp unigol yr holl atebion, ac mae pob llais a phleidlais yn bwysig. Rwy'n gweld siambr unedig drwy ymrwymiad cyffredin i wasanaethu ein cymunedau, a chredaf y gallwn adeiladu ar hynny i sicrhau gwell canlyniadau gyda'n gilydd.
"Bydd fy arweinyddiaeth yn weladwy, yn hygyrch ac yn seiliedig ar wrando. Rhaid i ni weithio gyda'n gilydd, gyda pharch tuag at ein gilydd, i fynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau - yn enwedig yn y meysydd addysg, gofal cymdeithasol, a chostau byw.
"Rwyf wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau cynhwysol, cynllunio cyllideb deg, a chynnal gwasanaethau rheng flaen cryf. Gyda'n gilydd, gallwn greu Powys gryfach, decach, wyrddach."
Fel rhan o'i araith dderbyn, talodd y Cynghorydd Berriman deyrnged i'w ragflaenydd am ei waith fel Arweinydd yn ystod cyfnod heriol ac am hyrwyddo Powys yn lleol ac yn genedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Berriman, Arweinydd y Cyngor: "Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i James am y llaw gadarn y mae wedi ei ddefnyddio yn y rôl ers 2022, ac am y gefnogaeth y mae wedi'i dangos i mi wrth i mi gamu ymlaen ar yr adeg hon. Mae wedi gosod sylfeini cadarn o fewn y cyngor a ledled Cymru drwy ei arddull cydweithredol.
"Mae James wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd gwleidyddol Powys, ac mae ei enw'n gyfystyr â gwasanaeth cyhoeddus ymroddedig. Yn sicr fe fydd yn anodd llenwi ei esgidiau, ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar am yr hyder a'r gefnogaeth y mae wedi'i roi i mi.
"Rwy'n falch iawn bod James wedi cytuno i barhau i chwarae rhan allweddol o fewn y cyngor fel Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Ffyniannus tan ddiwedd mis Medi ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio ag ef."
Yn dilyn ei ethol, cadarnhaodd y Cynghorydd Berriman aelodaeth ei Gabinet newydd:
Aelod Cabinet | Portffolio |
Y Cynghorydd Jake Berriman: Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bobl, Perfformiad a Phartneriaethau |
|
Y Cynghorydd Matthew Dorrance: Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach |
|
Y Cynghorydd James Gibson-Watt (hyd at 30 Medi 2025) / Y Cynghorydd Glyn Preston (o 1 Hydref 2025): Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Ffyniannus |
|
Y Cynghorydd David Thomas: Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaetho |
|
Y Cynghorydd Sian Cox: Aelod Cabinet dros Bowys Ofalgar |
|
Y Cynghorydd Richard Church: Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio |
|
Y Cynghorydd Pete Roberts: Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu |
|
Y Cynghorydd Jackie Charlton: Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach |
|
Y Cynghorydd Sandra Davies: Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol |
|
Y Cynghorydd Raiff Devlin: Aelod Cabinet dros Gwsmeriaid, Gwasanaethau Digidol a Chymunedol |
|