Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwyddiant Ysgol Gynradd Llanfaes gydag arolygiad Estyn cael ei chydnabod gan y cyngor

Image of Llanfaes C.P. School

5 Mefefin 2025

Image of Llanfaes C.P. School
Mae ysgol gynradd yn Aberhonddu wedi cael ei llongyfarch gan Gyngor Sir Powys ar ôl derbyn arolygiad Estyn rhagorol.

Mae Ysgol Gynradd Llanfaes wedi cael ei chanmol yn adroddiad arolygu Estyn am greu amgylchedd meithringar lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu parchu, ac yn awyddus i ddysgu.

Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd ddydd Gwener, 30 Mai, yn cynnwys adran 'sbotolau' arbennig sy'n arddangos arfer gorau yn yr ysgol, gan dynnu sylw at sut mae wedi creu amgylchedd dysgu deinamig sy'n meithrin annibyniaeth a chwilfrydedd ymhlith ei disgyblion ieuengaf.

Mae hefyd yn tynnu sylw at lwyddiant yr ysgol wrth ddatblygu sgiliau cyfathrebu, mathemategol a digidol y disgyblion. Yn ogystal, mae'r adroddiad yn cydnabod dull cynhwysol yr ysgol, yn benodol wrth gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Ar ran Cyngor Sir Powys, hoffwn estyn fy llongyfarchiadau calonnog i bawb yn Ysgol Gynradd Llanfaes ar yr adroddiad Estyn rhagorol hwn.

"Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu arweinyddiaeth gref a thosturiol yr ysgol, ymroddiad ei staff, ac ymrwymiad cyffredin i greu amgylchedd lle mae disgyblion yn cael eu hysbrydoli i ffynnu. Mae'r pwyslais ar feithrin annibyniaeth, chwilfrydedd, a chariad gydol oes at ddysgu yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon.

"Diolch i gymuned yr ysgol gyfan am eich ymgais barhaus am ragoriaeth ac am osod safon mor uchel ar gyfer addysg ym Mhowys."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu