Is-etholiad Llanidloes i'w gynnal

9 Mehefin 2025

Mae'r isetholiad yn digwydd i lenwi'r swydd wag ar gyngor y sir yn dilyn ymddiswyddiad Gareth Morgain ym mis Mai.
Bydd yr etholiad yn digwydd ddydd Iau, 3 Gorffennaf, 2025.
Mae chwe ymgeisydd yn sefyll yn isetholiad y cyngor sir. Dyma nhw:
- David Dennis Campbell (Annibynnol)
- Phylip Rhys Davies (Plaid Geidwadol Cymru)
- Trudy Davies (Llafur Cymru)
- Victoria Louise Evans (Plaid Cymru)
- Fleur Frantz-Morgans (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
- Graham Maurice Jones (Reform UK)
Mae gan unrhyw un nad yw wedi cofrestru i bleidleisio tan ddydd Mawrth, 17 Mehefin 2025 i gofrestru er mwyn gallu pleidleisio yn yr etholiad hwn. I gofrestru i bleidleisio, ewch i www.gov.uk/registertovote
Dylai etholwyr nodi bod rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy'r post neu geisiadau i newid neu ganslo cais presennol gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Mercher, 18 Mehefin, 2025.
Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Neuadd y Sir, Llandrindod erbyn 5pm ddydd Mercher, 25 Mehefin, 2025. Gellir dod o hyd i geisiadau dirprwy yn Enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan
Am ragor o wybodaeth ewch i Gwybodaeth am etholiadau sydd ar y gorwel