Parchu eich dewisiadau

Parchu eich dewisiadau a'ch cefnogi i gadw'n ddiogel
Mae dewis a mentro yn rhan o fywyd bob dydd; rydyn ni eisiau eich cefnogi i wneud y pethau rydych yn mwynhau eu gwneud, hyd yn oed pan fyddan nhw'n cynnwys risg.
- Byddwn yn hyrwyddo dewis a rheolaeth ac yn eich cefnogi i nodi/cydbwyso risgiau i'ch llesiant corfforol ac emosiynol a sut i reoli'r rhain mor ddiogel â phosib.
- Byddwn yn gwrando ar unrhyw bryderon sydd gennych ac yn cael sgyrsiau agored a gonest gyda chi am unrhyw beth rydyn ni'n poeni amdano.
- Rydyn ni'n cydnabod bod pawb yn profi diwrnodau da a diwrnodau gwael a byddwn yn eich helpu i nodi pwy allai gefnogi pan nad yw pethau'n mynd yn ôl y disgwyl. Byddwn yn eich helpu i wneud cynlluniau wrth gefn os na fydd eich rhwydweithiau cymorth arferol ar gael neu'n methu â'ch cyrraedd. (Er enghraifft mewn tywydd gwael).