Toglo gwelededd dewislen symudol

Ailgylchwch fwy yn eich blwch coch!

Image of items that can be recycled in the red box

12 Mehefin 2025

Image of items that can be recycled in the red box
Bellach, mae'n bosib ailgylchu cynwysyddion papur, fel tiwbiau creision, tiwbiau toes, tybiau gronynnau grefi, cwpanau coffi papur a chartonau bwyd a diod, drwy eich casgliadau ailgylchu wythnosol drwy eu hychwanegu at eich blwch ailgylchu coch.

"Rydym wrth ein bodd yn gallu ehangu'r ystod o eitemau y gallwn eu hailgylchu drwy'r casgliadau wrth ymyl y ffordd wythnosol," eglura'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach.

"Yn flaenorol, byddai'r cynwysyddion papur hyn wedi mynd i'r bin olwynion gyda'r sbwriel na ellir ei ailgylchu, felly mae'n newyddion ardderchog y gallwn ni nawr dderbyn y rhain yn y blychau ailgylchu coch."

Mae'r cynwysyddion papur y gallwn ni nawr eu derbyn yn y blychau ailgylchu coch, ochr yn ochr â'r caniau a'r plastigau, yn cynnwys tiwbiau creision, tiwbiau papur toes gyda gwaelod metel, cynwysyddion a thybiau papur eraill gyda gwaelod metel neu ffoil a leinin plastig, cartonau sudd, llaeth, cawl a bwyd a chwpanau coffi papur. Golchwch nhw'n gyflym, eu gwasgu, ac yna eu hychwanegu at eich blwch ailgylchu coch.

Efallai y bydd yn ymddangos bod yr eitemau hyn yn perthyn i'r blwch glas, ond gan eu bod wedi'u gwneud o gymysgedd o ddefnyddiau (papur, plastig/polyethylen, ffoil), ni ellir eu hailgylchu yn yr un ffordd â phapur a cherdyn arferol.

Ar ôl casglu'r ailgylchu o'ch blwch coch, caiff y cartonau ac eitemau papur eraill eu gwahanu oddi wrth y plastigau a'r caniau a'u bwndelu at ei gilydd. Yna anfonir y bwndeli hyn i gyfleuster ailbrosesu pwrpasol, lle cânt eu torri i lawr yn eu rhannau cydrannol i'w hailgylchu.

Ychwanegodd y Cynghorydd Charlton: "Mae aelwydydd Powys eisoes wedi profi eu bod yn ailgylchwyr ymroddedig, ac rydym yn awyddus i ddatblygu ffyrdd o helpu i gynyddu ein cyfleoedd ailgylchu lle bynnag y bo modd. Bydd cyflwyno'r cynwysyddion papur hyn i'r blwch coch yn ein helpu i gynnal momentwm ailgylchu'r sir."

I'ch atgoffa, gallwn nawr gasglu'r canlynol yn eich blychau coch:

  • Poteli, potiau, tybiau a hambyrddau plastig glân a gwag
  • Tuniau, caniau, aerosolau cegin ac ystafell ymolchi, ffoil a chaeadau metel glân a gwag
  • Cartonau bwyd a diod glân a gwag
  • Cynwysyddion papur gyda gwaelod metel a leinin plastig (tiwbiau creision, tiwbiau toes, tybiau gronynnau grefi, ac ati)
  • Cwpanau coffi papur glân

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu