Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

RHYBUDD SGAM: Rydym wedi cael gwybod am gyfres o negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at drigolion Powys.

Cannoedd o fusnesau'n derbyn cymorth rhyddhad ardrethi

Image of shopping, eating and a gym

18 Mehefin 2025

Image of shopping, eating and a gym
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod biliau ardrethi busnes cannoedd o fusnesau Powys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi gostwng ar ôl gwneud cais am gynllun rhyddhad ardrethi.

Mae cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes: Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, a weinyddir gan Gyngor Sir Powys, wedi gweld 700 o fusnesau yn y sir yn cael y rhyddhad o 40% sydd wedi lleihau eu biliau ardrethi busnes gan £2.3m.

Bellach mae'r cyngor yn annog busnesau cymwys sy'n weddill i wneud cais am y rhyddhad ardrethi ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid o £3.449m i'r cyngor ar gyfer y cynllun a gall hyd at 980 o fusnesau ym Mhowys fod yn gymwys am y disgownt.

Bydd y cynllun yn berthnasol i bob talwr ardrethi cymwys sydd â chap rhyddhad ar gyfer pob eiddo busnes hyd at uchafswm o £110,000.

Rhaid i'r busnes fod yn y sectorau manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Mae'r cynllun rhyddhad ardrethi ar gael tan 31 Mawrth 2026. Rhaid i fusnesau sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd wneud cais am y rhyddhad ardrethi hwn.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Rydym yn amcangyfrif y gallai fod gan 980 o fusnesau ym Mhowys hawl i'r rhyddhad ardrethi hwn o 40%, felly rwyf wrth fy modd bod cymaint o fusnesau prysur wedi gwneud cais am eu rhyddhad ardrethi yn barod.

"Mae'n parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i'r busnesau hynny yn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda'r cyfnod economaidd heriol parhaus y maent yn ei wynebu.

"Mae'r cynllun hwn yn cefnogi busnesau yn y sectorau hyn felly byddwn yn annog y rhai nad ydynt wedi gwneud cais i wneud hynny cyn gynted â phosib."

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun, gan gynnwys y ffurflen gais a sut i ymgeisio, ewch i Trethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025/2026

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu