Mae Pont Teithio Llesol y Drenewydd bellach ar agor

19 Mehefin 2025

Ar ôl cwblhau'r holl waith mawr, mae'r cwmni adeiladu, JN Bentley, wedi agor y bont gan ganiatáu i'r cymunedau lleol ar ddwy ochr yr afon nid yn unig ddefnyddio'r bont, ond hefyd wneud defnydd o'r gampfa awyr agored newydd a osodwyd ar ochr Pool Road yr afon.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru, mae'r strwythur dur, un rhychwant, bwa agored yn cysylltu llwybr glan yr afon, cymunedau, busnesau ac amwynderau ar ochr orllewinol Afon Hafren â Pool Road ar yr ochr ddwyreiniol.
Cafodd y prosiect ei nodi'n wreiddiol o fewn y Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol a gynhyrchwyd ychydig flynyddoedd yn ôl. Yn ystod y broses ymgynghori, helpodd adborth gan drigolion, grwpiau cymunedol, ysgolion, teuluoedd, a rhanddeiliaid eraill i lunio dyfodol llwybrau teithio llesol arfaethedig ledled Powys.
"Bydd y bont hon yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r rhai sy'n byw yn yr ardal leol a bydd yn sicr o roi'r cyfle iddynt wneud teithiau byr i'r gwaith, yr ysgol neu'r siopau lleol, ar feic neu ar droed, yn hytrach na gorfod mynd yn y car. Rydym am helpu i wella mynediad i ganol y dref i gefnogi busnesau lleol, cyfleusterau hamdden a llawer mwy." eglura'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Werddach.
"Hoffem ddiolch i'r cymunedau lleol am eu hamynedd tra bod y bont hon wedi'i hadeiladu. Dyma ein datblygiad teithio llesol mwyaf uchelgeisiol hyd yma. Rydym yn gwerthfawrogi ei fod wedi cymryd mwy o amser nag a ragwelwyd ac yn falch ei fod o'r diwedd ar agor i bobl ei ddefnyddio."
Dros yr wythnosau nesaf, bydd gwaith atgyweirio bach yn dal i gael ei wneud i'r bont a'r ardaloedd cyfagos, ond bydd y bont yn aros ar agor tra bod y manylion bach yn cael eu cwblhau. Bydd digwyddiad agor swyddogol yn cael ei gynllunio yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gyda manylion yn cael eu rhyddhau yn nes at yr amser.