Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau galw heibio i'r rhai sydd â diddordeb mewn cael effaith gadarnhaol ar oedolion bregus ym Mhowys

Silla, from the Glasbury area, who looks after Matty as part of the Shared Lives scheme, with their dog Austin

19 Mehefin 2025

Silla, from the Glasbury area, who looks after Matty as part of the Shared Lives scheme, with their dog Austin
Cynhelir digwyddiadau recriwtio galw heibio ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn agor eu cartrefi i oedolion ym Mhowys sydd ag anableddau dysgu, anawsterau iechyd meddwl, neu oedolion hŷn fel rhan o Wythnos Cysylltu Bywydau 2025 (23 - 27 Mehefin).

Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled Powys i gyfarfod â'r tîm a sgwrsio am yr effeithiau cadarnhaol y mae gofalwyr Rhannu Bywydau yn eu cael ar oedolion mwyaf bregus y sir.

Galwch heibio am sgwrs yn:

  • Llandrindod, Canolfan Chwaraeon Freedom Leisure, Dydd Llun 23 Mehefin 2025, 9am - 12.30pm
  • Y Trallwng, Costa Coffee, Dydd Mercher 25 Mehefin 2025,10am - 12pm
  • Rhaeadr Gwy, Canolfan Chwaraeon Freedom Leisure, dydd Mercher 25 Mehefin 2025, 10am - 3.30pm
  • Y Drenewydd - Canolfan Chwaraeon Freedom Leisure Maldwyn - Dydd Mercher 25 Mehefin 2025, 2pm - 4pm
  • Aberhonddu - Costa Coffee, Dydd Gwener 27 Mehefin 2025, 2pm - 4pm
  • Aberhonddu - Canolfan Chwaraeon Freedom Leisure, Dydd Gwener 27 Mehefin 2025, 9am - 12.30pm

"Mae ein gofalwyr Cysylltu Bywydau yn agor eu cartrefi a'u calonnau i'r oedolion maent yn eu cefnogi a'u mentora, meddai'r Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet dros Bowys Ofalgar, "a phan mae hyn yn digwydd, mae pawb sy'n gysylltiedig yn elwa fel arfer.

"Fel gofalwr Cysylltu Bywydau, byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd person. Mae gofalwyr yn dweud wrthym yn aml, drwy greu teulu estynedig a thrwy roi ymdeimlad o berthyn a chysylltiad i'r unigolyn, eu bod yn dod yn fwy cysylltiedig â'u cymuned, a'u bod yn dysgu ac yn profi pethau newydd eu hunain. Maen nhw'n dweud wrthym ei fod yn drefniant unigryw a gwerthfawr i bawb sy'n gysylltiedig.

"Os ydych wedi ystyried darparu'r math hwn o ofal a chymorth i oedolyn sydd ag anableddau dysgu neu un sy'n profi anawsterau iechyd meddwl, dewch draw i gyfarfod â'r tîm mewn digwyddiad yn lleol i chi neu cysylltwch â ni i gael gwybod mwy."

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr Rhannu Bywydau ym Mhowys, e-bostiwch shared.lives@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 826539.

Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan Cyngor Sir Powys: Cysylltu Bywydau

Mae gofalwyr Rhannu Bywydau yn darparu cymorth hirdymor, seibiannau byr, argyfwng a dydd i oedolion ag anableddau dysgu a chorfforol, colli synhwyrau, anhwylderau'r sbectrwm awtistig, dementia, y rhai sy'n profi iechyd meddwl gwael neu broblemau camddefnyddio sylweddau. Gallant hefyd helpu pobl hŷn.

Maent yn derbyn lwfans, pan fydd y person y maent yn ei gefnogi yn aros gyda nhw. Maent hefyd yn cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi, seibiant â thâl a chefnogaeth gan y tîm Rhannu Bywydau.

LLUN: Silla, o ardal Y Clas-ar-Wy, sy'n gofalu am Matty fel rhan o'r cynllun Cysylltu Bywydau, gydag Austin eu ci.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu