Arweinydd yn lansio 'Amser i Siarad' - ffordd newydd o gysylltu â thrigolion

25 Mehefin 2025

Gan ddechrau ar ddydd Mercher, Gorffennaf 23 yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru, bydd y Cynghorydd Jake Berriman yn cynnal ei 'Amser i Siarad' - sesiwn fisol arlein lle gall trigolion drefnu apwyntiad un-i-un i ofyn cwestiynau, codi pryderon, neu rannu syniadau mewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol.
Ar ôl sesiwn gyntaf mis Gorffennaf, cynhelir sesiynau yn y dyfodol ar y trydydd dydd Mercher o bob mis drwy Microsoft Teams gan bara dwy awr, gyda 12 apwyntiad ar gael i breswylwyr. Bydd apwyntiadau ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
Bydd gan bob preswylydd hyd at wyth munud i siarad yn uniongyrchol â'r Arweinydd.
"Mae hyn yn ymwneud â gwrando, dysgu ac arwain gyda'n gilydd," meddai'r Cynghorydd Berriman.
"Rwyf am glywed yn uniongyrchol gan bobl Powys - beth sy'n gweithio, beth sydd ddim, a sut gallwn ni wella."
Rhaid i drigolion sy'n dymuno cymryd rhan archebu ymlaen llaw drwy ebostio leader@powys.gov.uk erbyn 5yp ar ddydd Mercher 16 Gorffennaf.
Mae croeso i drigolion gynnwys eu cwestiwn neu bwnc ymlaen llaw, ond nid yw hyn yn angenrheidiol - gellir codi cwestiynau ar y diwrnod hefyd. Darperir ymateb ysgrifenedig wedyn os oes angen.